Mewn sesiwn briffio yn y Senedd heddiw (18 Ebrill), lansiodd Cymdeithas yr Iaith waith ystadegol yn dangos llwybr cynnydd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050.
Mae’r adroddiad, ‘Addysg Gymraeg i Bawb: Cyrraedd y Nod’, yn dadansoddi’r cynnydd sydd ei angen ym mhob sir fesul pum mlynedd er mwyn cyrraedd y nod. Mae hefyd yn dadansoddi’r cynnydd angenrheidiol er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o 50% o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn yr un flwyddyn.
Daw fel rhan o ymgyrch barhaus Cymdeithas yr Iaith dros addysg Gymraeg i bawb, a sicrhau ymrwymiad ar gyfer hynny ym Mil Addysg Gymraeg y Llywodraeth, sydd ar fin cael ei gyflwyno i’r Senedd. Mae’r Bil yn cael ei ddisgrifio gan y mudiad fel “cyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i “drawsffurfio” y gyfundrefn addysg.
Yn siarad o flaen y lansiad, dywedodd Mabli Siriol, aelod o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Y broblem gyda’r cynigion yn y Papur Gwyn ar gyfer Bil Addysg Gymraeg y Llywodraeth yw bydd hanner plant Cymru dal yn colli mas ar addysg Gymraeg. Rydyn ni'n credu dylai bod gan pob plentyn – o ble bynnag maen nhw’n dod, pwy bynnag yw eu rhieni, beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol – yr hawl yna i’r Gymraeg. Mae’r Bil yma’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsffurfio ein system addysg ni.”
“Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi gwaith ystadegol, trylwyr, safonol, sy’n dangos – ydy mae fe’n uchelgeisiol, mae fe’n her, gyda’r system addysg sydd gyda ni ar hyn o bryd – ond, mae fe’n gyraeddadwy. Yr hyn sydd angen nawr yw’r uchelgais, yr ewyllys gwleidyddol, a’r cyllido gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.”
Yn 2021, cyhoeddodd y mudiad Ddeddf Addysg Gymraeg ei hun, sy’n gosod addysg Gymraeg i bawb fel nod mewn statud. Yn 2022, cyhoeddodd y mudiad ‘Strategaeth Datblygu Gallu’r Gweithlu Addysg’ yn galw am fuddsoddiad sylweddol a chynllun gyda thargedau ar gyfer cynyddu nifer y gweithlu sy’n gallu gweithio trwy’r Gymraeg.
Noddwyd y lansiad gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan. Yn ymateb i’r adroddiad, dywedodd:
"Chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n warth o beth bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i siarad a defnyddio'r Gymraeg.
"Mae'r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn dweud yn gyson bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ond mae'n amharod iawn i gymryd y camau radical sydd eu hangen os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau dyfodol cadarn i'n hiaith.
"Nid geiriau gwag sydd eu hangen ond gweithredu a buddsoddi yn y gweithlu, fel mae'r adroddiad hwn yn nodi. Dyma'r unig ffordd o sicrhau cyfleoedd cyfartal i'n plant a'n pobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru."