'Gwendid sylfaenol' yn nhrefn adolygu dyfodol ysgolion Ceredigion

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn cyfarfod y prynhawn yma gyda phrif Swyddogion a Chynghorwyr Ceredigion, bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith yn llongyfarch y Cyngor ar eu hymrwymiad at ysgolion pentref sydd yn cymharu'n ffafriol iawn gyda pholisiau dinistriol Cyngor Sir Gar. Ond bydd y Gymdeithas yn dweud wrthynt bod gwendid sylfaenol yn eu hargymhellion i adolygu ysgolion, a gynhwysir mewn papur ymgynghorol cyfredol.

O flaen y cyfarfod - y cynrhychiolir y Cyngor gan Cyng Dai Lloyd Evans (Arweinydd y Cyngor), Cyng Emlyn Thomas (Yr Aelod Cabinet a Chyfrifoldeb dros Addysg) a Owen Watkin (Prif Weithredwr y Cyngor), dywedodd Angharad Clwyd Swyddog Maes y Gymdeithas yn Nyfed "Ar waethaf ymrwymiad y Cyngor i gefnogi ysgolion pentref mae gwendid sylfaenol yn eu rhaglen adolygu gan ei bod yn hollol negyddol.Yr argymhelliad yw i adolygu ysgolion yn unig pan fydd problemau potensial yn codi - boed yn gwymp yn nifer y disgyblion, symudiadau staff neu problemau adeilad. Mae hyn yn gosod yr holl adolygiad yn syth mewn cyd-destun negyddol ac yn gosod baich ar lywodraethwyr i gyfiawnhau holl fodolaeth eu hysgolion."Ein gwrth-gynnig ni yw rhaglen o adolygiadau cadarnhaol o holl ysgolion Ceredigion. Galwn am raglen fesul ardal o adolygu pob ysgol yn ystod y ddegawd nesaf i weld sut y gall ysgolion gydweithio a chael eu chryfhau'n gadarnhaol fel adeiladau ac fel cymunedau dysgu. Dylid trafod sut y gellir eu datblygu'n asedau hanfodol i adfywio cymunedol y bydd addysg gynradd yn rhan bwysig ohonno ond yn rhan yn unig.""Dylai'r Cyngor bwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i gael gwared a'r ffiniau cyllido ffug rhwng y gyllideb addysg statudol a'r holl amrywiaeth o wahanol gyllidebau a mentrau ar gyfer addysg gymunedol a datblygu cymunedol. Trwy gyd-lynu'r gyllid gellid cael strategaeth gadarnhaol ac integreiddiedig i ddatblygu cymunedau pentrefol gyda'r ysgolion yn beiriannau pwysig i yrru'r adfywio."