Anfonwyd Gwenno Teifi i garchar Eastwood Park, swydd Gaerloyw am 5 diwrnod am wrthod talu dirwy o £120 am beintio slgan yn galw am Ddeddf Iaith ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn ôl ym mis Hydref 2006. Fe'i dedfrydwyd i garchar gan Lys Ynadon Caerfyrddin.Dyma'r ail dro mewn blwyddyn i Gwenno, sy'n fyfyriwr 20 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dod yn wreiddiol o Lanfihangel ar Arth, Sir Gaerfyrddin gael ei charcharu yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Wrth gael ei dedfrydu fe ddywedodd Gwenno Teifi wrth y Llys:"Yr wyf yn gobeithio y bydd fy ngharchariad yn fodd i Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru a Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, wrth iddynt fynd ati heddiw i ffurfio llywodraeth glymblaid, ffocysu eu meddwl ar yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Drwy fynd i garchar rwyf hefyd yn pwysleisio nad ydym am gael Deddf Iaith ddiwerth a bod yn rhaid i bwerau unrhyw ddeddfwriaeth newydd ymestyn i'r sector breifat."Language campaigner jailed for second time, Daily Post - Mehefin 10 2007Welsh language campaigner jailed, Western Mail - Mehefin 10 2007