Daeth ymgyrchwyr iaith o bob rhan o Gymru ynghyd ym Mhowys ddydd Sadwrn lle trafodon nhw ffyrdd i ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.
Yn ogystal â chynnig gweledigaeth am yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud i greu amodau byw ar gyfer ein cymunedau lleol, clywodd yr ymgyrchwyr gyflwyniad gan grŵp BOS Carno am eu brwydr dros y gymuned. Llwyddodd cymuned Carno, gyda chymorth aelodau’r Gymdeithas, sicrhau dyfodol i’r ysgol leol wedi bygythiad i’w chau. Yn sgil lobïo llwyddiannus, cytunwyd i sefydlu ffederasiwn o ysgolion yn lle.
Cafwyd areithiau gan yr ymgyrchwyr iaith Emyr Llew, Dafydd Morgan Lewis o Langadfan, Sir
Drefaldwyn, Toni Schiavone a Robin Farrar Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ogystal.
Wrth annerch y rali, dywedodd Emyr Llew: “Pa ateb sydd gyda ni felly i argyfwng yr iaith? Mae gyda ni ateb - gwleidyddiaeth y pethau bychain. Gwleidyddiaeth y pethau bychain yw ymladd gormes y mawr - y gwladwriaethau mawr, y bomiau mawr, yr argaeau mawr, y cynlluniau datblygu mawr, a datgan dyfod dydd y rhai bychain, dydd dyrchafu'r pethau bychain. Ystyr gwleidyddiaeth y pethau bychain yw rhoi dehongliad newydd o ddemocratiaeth sef rheolaeth y ‘demos’, y bobl.”
“Ar y funud grym afiach cyfalaf sy'n rheoli, grym afiach mwyafrif nad hidiant am y lleiafrifoedd. Democratiaeth lefelu popeth i unffurfiaeth a chydymffurfiaeth yw ein democratiaeth bresennol. Democratiaeth gelwyddog sy'n cuddio rhaib cyfalaf a'i rheolaeth ar beiriant y wladwriaeth tu ôl i chwarae'r gêm o fynd drwy'r prosesau cywir. Mae Gwleidyddiaeth y pethau bychain yn dweud mai nid nhw y pellinnig diwyneb a dihidio, nid nhw y cynllunwyr anwybodus, nid nhw y mwyafrif nad yw'r mater yn ddim iddyn nhw biau penderfynu beth sy'n digwydd i fro a chymdeithas. Gwleidyddiaeth y pethau bychain yw dweud mai'r bobl, y bobl yn eu bro a'u cymdeithas arbennig nhw biau penderfynu beth sy'n digwydd yn y fro honno.”
Bydd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud: “Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i ni weld canlyniadau’r Cyfrifiad, ac mae llawer o siarad a thrafod wedi bod ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg. Bellach, mae yna gonsensws bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg a bod angen newidiadau polisi mawr. Rydan ni wedi dweud, ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, nad oes diben eistedd yn ôl a derbyn y canlyniadau: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg.
“Rydyn ni wedi amlinellu cynigion manwl iawn, wedi trafod â gwleidyddion o bob plaid ac mae Carwyn Jones wedi dechrau gwneud rhai o’r synau iawn. Ond, blwyddyn yn ddiweddarach, mae’n hen bryd iddo wneud datganiad cynhwysfawr am y gweithredoedd newydd, cadarnhaol, radical y bydd o’n eu cymryd dros y Gymraeg.”