Wedi'r ymgynghori gyda'r datblygwyr 'Eatonfield Group'a Chyngor Sir Gâr, datgelodd Cymdeithas yr Iaith y gallai fod dechrau ar y broses o adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli yn nyffryn teifi mor glou â'r Pasg nesaf.
Rhoddwyd caniatad cynllunio amlinellol dros 20 mlynedd yn ôl ar gyfer 31 o dai a bwriadau'r datblygwyr nid yn unig i ddefnyddio hwn ond hefyd i ofyn am ganiatad i adeiladu hyd at 50 o dai mewn cais manwl i'w ddanfon at swyddfeydd y cyngor yr wythnos hon.Dywedodd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith - Angharad Clwyd, sy'n byw ym Mhont-Tyweli:"Os caniateir y datblygiad hwn, fe fydd yn cynyddu nifer o dai yn y pentref o 50% gan ei weddnewid yn gymdeithasol a diwyllianol.""Fe'm sicrhawyd gan y datblygwyr y byddai 30% o'r tai yn 'fforddiadwy', ond nid yw hyn o gysur i Gymdeithas yr Iaith oherwydd golyga fod 70% o'r tai yn 'anfforddiadwy' ac yn hollol y tu hwnt i beth all y rhan fwyaf o bobl Dyffryn Teifi ei fforddio.""Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i ganiatau dim ond y 15 (30%) o gartrefi fforddiadwy. Mae hyd yn oed y Cynllun Datblygu Unedol dadeleuol yn cyfyngu'r nifer o dai ar y safle hwn i 14.""Nid ydym wedi'n argyhoeddi chwaith fod gan Cyngor Sir Gâr yr adnoddau na'r gallu - yn ôl tystiolaeth y CDU - i gyflawni Astudiaeth Ystyrlon ar yr Effaith ar yr Iaith. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw ymdrech i astudio effaith datblygiadau tai mawr blaenorol ar yr iaith Gymraeg."Rhybuddiodd Ms Clwyd:"Rhaid rhoi stop ar y math hwn o elwa o dir a chartrefi ar draul cymunedau Cymraeg."Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo i Gymru. Mae'r Deddf Eiddo a argymhellir yn fesur cynhwysfawr sy'n delio gyda phob agwedd o'r argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru - o ran prisiau tai afresymol, prinder dybryd o eiddo i'w rentu, neu ddatblygiadau mawr peryglus.Cred Cymdeithas yr Iaith fod mesur o'r fath yn sylfaenol bwysig os ydym am sicrhau dyfodol hyfyw i'n cymunedau Cymraeg.