Hawl newydd i wersi nofio Cymraeg!

O’r 30ain o Fawrth bydd gennych chi'r hawl i gael gwersi nofio yn Gymraeg! Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol heddiw i ddefnyddio eich hawl newydd! Mae rhifau ffôn bob cyngor, a mwy o fanylion am y Safonau, i’w gweld yma: http://cymdeithas.cymru/fyhawl

Pan ddaw'r set gyntaf o Safonau Iaith i rym ar y 30ain o Fawrth, bydd gan bawb* yr hawl i gael gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn canolfannau hamdden a reolir gan, neu sy’n cael eu rhedeg drwy gytundeb gyda, y cyngor sir.

Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad hawliau newydd i'r Gymraeg (rheoliadau sy'n cael eu galw Safonau'r Gymraeg). Mae dros 100 o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.  

Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio: 

"Os byddwch yn cynnig cwrs* addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg."** 
(Safon 84, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) 

Mae'r manylion hyn hefyd ar Facebook: http://www.facebook.com/events/228931034123511/

Yn gywir,

Manon Elin

manon@cymdeithas.cymru
@grwphawl
http://cymdeithas.cymru/fyhawl
http://facebook.com/cymdeithas
http://instagram.com/cymdeithas

*Mae Cyngor Nedd Port Talbot wedi cyflwyno her gyfreithiol i'r Safon yma, felly ni fydd yr hawl yn weithredol nes fod yr apêl wedi cael ei dyfarnu. Mae amod ar yr hawl yn y rhan fwyaf o siroedd sy'n golygu nad oes rhaid cynnig y cwrs os oes asesiad wedi ei gynnal gan y cyngor sy'n dangos nad oes galw am y cwrs yn Gymraeg. Does dim amod o'r fath ym Mhowys na Gwynedd, felly mae rhaid iddyn nhw gynnig gwersi yn Gymraeg bob tro. 
**Ystyr 'cwrs' yn y rheoliadau yw: "At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr ―cwrs addysg yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd..."