
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r hawliau iaith newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw.
Dywedodd Manon Elin, Is-Gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r rheoliadau hyn ymhell o fod yr hawliau clir a dealladwy rydyn ni wedi galw amdanyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o'n pryderon. Mae nifer o wendidau’n dal yno: bydd rhaid mynd i’r afael â nhw wrth i’r broses symud yn ei blaen. Does dim digon o gefnogaeth statudol ar gyfer cyrff sydd am weithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg er enghraifft, ac mae diffyg symud cyrff ymlaen o ran cynllunio’r gweithlu. Yn sicr, dydyn nhw ddim wedi gwneud digon i helpu cyrff symud ymlaen i normaleiddio’r iaith, nac i sicrhau mai’r Gymraeg yw’r ddarpariaeth ddiofyn yn hytrach na rhywbeth ychwanegol. Rydyn ni’n gobeithio bydd gwleidyddion a’r Comisiynydd yn gweithio’n galed, gyda’i gilydd, er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn gweithio. Mae Mesur y Gymraeg wedi addo hawliau i bobl defnyddio, dysgu, gweld a chlywed y Gymraeg, felly mae dyletswydd ar i’r Llywodraeth a’r Comisiynydd nawr i sicrhau bod pobl yn ymwybodol ac yn cymryd mantais o’u hawliau newydd.”