Heart FM yn bradychu cymunedau Cymru - galw ar OFCOM i ymyrryd

heartfm-cymraeg.jpgHeddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad gorsaf radio Heart FM i symud eu canolfan ddarlledu sydd yn gwasanaethu Gwynedd a Môn o Fangor i Wrecsam.Dywedodd Gerallt Roberts aelod o rhanbarth Gwynedd / Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg."Ers misoedd bellach mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod mewn deialog gyda swyddogion o Heart FM ynglýn a'n pryderon nad ydi'r orsaf yn adlewyrchu y gymuned y mae hi fod i wasanaeth, gan chware canran uchel iawn o ganeuon Saesneg. Teimlwn fel Cymdeithas na fydd y penderfyniad i symud canolfan ddarlledu yr orsaf o Fangor i Wrecsam yn gwneud dim i liniaru ein pryderon ynglýn a dyfodol yr orsaf fel fforwm rhanbarthol i drafod ac i adlewyrchu'r holl ystod eang o fywyd cyfrwng Cymraeg siroedd Gwynedd a Môn."

Ychwanegodd Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd:"Mae'r penderfyniad yma yn dwyn gwarth ar honiadau Heart FM o fod yn orsaf radio gymunedol. Rydym ers misoedd lawer wedi bod yn pryderu am y gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan Heart FM, ni fydd y penderfyniad yma yn gneud dim i hwyluso'r gwaith o droi Heart FM yn orsaf radio cyfrwng Cymraeg i siroedd Gwynedd a Môn.""Gofynnwn ar OFCOM i ail ystyried y drwydded a roddwyd i Heart FM, oherwydd mai hi'n amlwg erbyn hyn nad ydi'r orsaf yn cyflawni anghenion y drwydded honno. Gofynnwn hefyd ar OFCOM i sicrhau bod holl orsafoedd radio masnachol Cymru yn cynrychioli natur ieithyddol yr ardal maen nhw'n gwasanaethu, a bod OFCOM yn gwneud amod bod rhaid darparu rhaglenni a cherddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, cyn cytuno ar unrhyw drwyddedau radio masnachol newydd yng Nghymru."