Helynt Ysgolion Ceredigion: galw am arweiniad clir gan yr ysgrifennydd addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, i fanteisio ar adolygiad presennol y Cod Trefniadaeth Ysgolion i roi arweiniad clir a dangos fod y Llywodraeth o ddifri am y polisi o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Daw hyn o flaen trafodaeth Cabinet Cyngor Ceredigion yfory (dydd Mawrth, 3 Rhagfyr) ar gynnig i ddileu penderfyniad blaenorol i ymgynghori'n statudol ar gynigion i gau pedair ysgol wledig Gymraeg yn y sir.

Yn ôl y mudiad, byddai datganiad o’r fath gan yr ysgrifennydd yn osgoi ailadrodd sefyllfa debyg i’r hyn a welwyd yng Ngheredigion.

Dywedodd Ffred Ffransis, ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r sefyllfa yn hollol ddryslyd erbyn hyn gan bydd y Cabinet yn trafod dileu ymgynghoriad statudol sydd yn dod i ben yn yr un diwrnod (dydd Mawrth 3 Rhagfyr), a thrin yr ymatebion fel "ymgynghoriad anffurfiol", byddan nhw trwy ddamwain yn gwneud beth ddylai fod wedi’i wneud yn y lle cyntaf, sef cynnal trafodaeth gyda phawb fel cam cychwynnol, gan geisio pob ffordd o osgoi cau ysgol wledig, cyn penderfynu ar gynnig.

“Yn anffodus, credodd y Cyngor y gallent gydymffurfio gyda’r Côd trwy ddilyn camau gwag, penderfynu'n gyntaf i gau ysgolion er mwyn gwneud arbedion i’w cyllideb, ac yna enwi opsiynau amgen gan wrthod pob un gyda’r un frawddeg generig.

“Mae angen i Lynne Neagle ddatgan yn gwbl glir fod y Llywodraeth o ddifri am y polisi er mwyn osgoi sefyllfa debyg i hyn yn y dyfodol, sydd wedi creu cymaint o boen meddwl i rieni, plant, llywodraethwyr ac i'r Cyngor ei hun.”

Wrth gyflwyno'r rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn hydref 2018, gwnaeth yr Ysgrifennydd ar y pryd, Kirsty Williams, y bwriad yn gwbl glir mewn trafodaeth arno yn Siambr y Cynulliad:

“Dylai awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny, os oes ganddynt ysgol ar y rhestr, ddechrau ar y sail mai cau yw'r dewis olaf a dylent geisio pob cyfle drwy amrywiaeth o ffyrdd i gadw'r ysgolion hynny ar agor… Na ddylid gadael y rhagdybiaeth honno yn erbyn cau a'r opsiwn i chwilio am ddewisiadau eraill i gadw ysgol ar agor, unwaith eto, tan y cyfnod ymgynghori swyddogol, ond dylai'r cyngor eu harchwilio cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol.”

Ychwanegodd Mr Ffransis:

"Mae angen ymelwa ar yr adolygiad cyfredol o'r Cod i gynnwys geiriau cwbl eglur o'r fath, fel na bydd unrhyw gyngor lleol, fel Ceredigion, dan unrhyw gamargraff yn y dyfodol."