Her gyfreithiol i'r Bil Cynllunio ar y gorwel - lansiad apêl ariannol

 

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu her gyfreithiol i'w deddfwriaeth gynllunio wedi i grŵp ymgyrchu ddechrau apêl ariannol heddiw (Dydd Mercher, 28ain Ionawr) er mwyn dwyn Gweinidogion gerbron llysoedd yn dilyn honiadau bod Gweinidogion wedi anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg.   

[CLICIWCH YMA I GYFRANNU I'R APEL]  

Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn datgan bod rhaid i'r Llywodraeth gymryd 'sylw dyladwy' o gyngor ysgrifenedig Comisiynydd y Gymraeg. Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi ysgrifennu dwywaith at y Llywodraeth gyda chyngor ynglŷn â'r Bil Cynllunio, gan dynnu sylw at wendidau'r ac anghysonderau'r drefn bresennol o ran yr iaith, ac yn argymell gwelliannau penodol i'r Bil 

Gwnaethpwyd addewid gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mewn dogfen polisi a gyhoeddwyd fis Mehefin, i ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'. Ond, doedd y Bil Cynllunio, a gyhoeddwyd fis Hydref y llynedd, ddim yn adlewyrchu cyngor y Comisiynydd: doedd dim sôn am y cyngor yn nogfennau'r Bil.  

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn cyngor gan brif gwnsler sy'n awgrymu bod achos cryf yn erbyn y Llywodraeth os nad yw'n cyflwyno newidiadau digonol i'r Bil yn ystod yr wythnosau nesaf.  

Yn siarad o Ferthyr Tudful, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae sefyllfa'r Gymraeg ar lefel gymunedol yn fregus. Rydym wedi cymryd cyngor cyfreithiol gan arbenigwr ar y materion hyn, ac wedi pwyllo cyn ystyried y cam nesaf. Er mwyn bod yn barod ar gyfer cyflwyno cais i'r llys, mae'n rhaid i ni ddechrau codi arian, gan fod y goblygiadau cost yn uchel. Mae'r Llywodraeth wedi cael sawl cyfle i wrando ar gyngor arbenigol y Comisiynydd a'i weithredu, ond rydyn ni eto i weld y Llywodraeth yn gweithredu. Rydyn ni dal yn obeithiol y byddan nhw'n newid eu meddwl yn dilyn y gwrth-wynebiad ffyrnig gan arweinwyr cynghorau ac eraill, ond does dim sicrwydd o hynny. Dyna pam ei bod ond yn ddoeth i baratoi."    

"Mae angen i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall."   

Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd pennaeth adran gynllunio'r Llywodraeth Neil Hemmington "Nid wyf yn ymwybodol ohono wrth gyfeirio at nodyn cynghorol gan y Comisiynydd at y Prif Weinidog 

Daw'r cam nesaf tuag at her gyfreithiol bosib wedi cyhoeddi llythyr agored gan draean o arweinwyr cyngor sir Cymru, oedd yn galw am newidiadau sylweddol i'r Bil oherwydd ei effaith ar yr iaith ac ar ddemocratiaeth leol. Disgwylir i Aelodau Cynulliad gyhoeddi adroddiad ar gynnwys y Bil Cynllunio ar ddiwedd yr wythnos.