Hysbyseb Swydd: Cydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am berson trefnus, egnïol a brwdfrydig i fod yn

Cydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg

2 ddiwrnod yr wythnos tan fis Mehefin 27ain 2014

Cyflog o £20,000 y flwyddyn pro rata

Lleoliad yn hyblyg

Swydd dros dro yw hon gyda'r bwriad o sefydlu gwaith y Gynghrair er mwyn iddi allu gweithredu ohoni ei hun.

Byddwch yn cydweithio yn agos â Chadeirydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg cynrychiolwyr presennol y Gynghrair ac aelodau potensial o'r Gynghrair ar draws Cymru gyda'r bwriad o hybu a chodi proffil y gynghrair ymysg grwpiau a chynghorau cymunedau a chynorthwyo gyda threfniadau'r Gynghrair.

Mae lleoliad yn hyblyg ond byddai disgwyl i'r Cydlynydd allu teithio yn rhwydd ar draws Cymru pan fo angen. Mae gan Gymdeithas yr Iaith dair swyddfa (Caernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd) a bydd holl adnoddau'r swyddfa honno ar gael i'r unigolyn. Ad-delir costau ffon a theithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill.

Anfonwch eich llythyr cais erbyn Dydd Gwener Tachwedd 15fed i: Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Aberystwyth SY23 2AZ neu trwy e-bost i post@cymdeithas.org

[Cliciwch yma am y swydd-ddisgrifiad]