Jane Davidson yn rhwystro symudiadau at Goleg aml-safle Cymraeg

Protest Coleg Ffederal Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Jane Davidson ei bod wedi gwastraffu blwyddyn gyfan yn gohirio penderfyniad ar gais syml a allai arwain at sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg wedi chwarter canrif o ymgyrchu.

Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gadeiriwyd gan Dafydd Wigley ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd, adroddwyd gan Ioan Mathews (Cyfarwyddwr Uned Datblygu Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg) fod y Brifysgol wedi gwneud cais i Jane Davidson am gyllid gymhedrol iawn i ariannu Asesiad Opsiynau o ran datblygu addysg uwch Gymraeg.Yr oedd disgwyl y byddai’r gwaith ar yr Asesiad Opsiynau’n cael ei gwblhau dros y gaeaf diwethaf, a’r argymhellion ar ddesg Jane Davidson erbyn hyn am benderfyniad. Yn lle hynny, dyw swyddfa Jane Davidson ddim hyd yn oed wedi cymryd penderfyniad eto ar y cais gwreiddiol i gylliddo’r ymchwiliad.Wrth gyhoeddi fod y Gymdeithas wedi danfon neges at Jane Davidson – gyda chopi at Dafydd Wigley – i gwyno am yr “oedi anhygoel”, dywed Rhys Llwyd (Swyddog Ymgyrchu Addysg Cymdeithas yr Iaith):“Ein gobaith oedd y byddai’r Asesiad Opsiynau’n argymell sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg, ac roedd y Gymdeithas yn barod i gynnig tystiolaeth i'r ymchwiliad drwy rannu ein gweledigaeth ni o goleg a fyddai wedi’i wreiddio yn ein cymunedau lleol ac yn gweithio law yn llaw gyda Llywodraeth Leol i gynnig profiad addysgol eang yn Gymraeg a chryfhau bywyd diwylliannol ac economaidd ein cymunedau yr un pryd.”“Ond, beth bynnag fo ein safbwynt, ni allai unrhyw un wadu’r angen am yr Asesiad Opsiynau i ystyried y ffordd orau ymlaen. Mae’n anhygoel fod Jane Davidson wedi oedi cyhyd ynghylch penderfyniad syml. Yn lle awdurdodi ymchwiliad sylfaenol i’r ffordd orau ymlaen, y mae hyd yma wedi ymgyfyngu i gyllido rhagor o ddarlithwyr Cymraeg tu fewn i’r drefn bresennol gan geisio cynnal trefn sydd wedi methu dros y chwarter canrif diwethaf.”