'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).
Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.
Bu gweithredoedd Jill ac eraill yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn cynlluniau i gwtogi grant S4C o 94% ac uno'r sianel â'r BBC.Yn siarad cyn yr achos llys, dywedodd Jill Evans ASE:
"Mae'r cytundeb diweddar rhwng y BBC ac S4C yn golygu bod yna sicrwydd ariannol yn y dyfodol agos, yn ogystal ag elfen o annibyniaeth olygyddol, ac, am y rheswm hwnnw, rwyf wedi penderfynu y bydda i'n talu fy nhrwydded deledu unwaith eto. Mae'r ymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth.
"Bygythiodd penderfyniad byrbwyll Llywodraeth San Steffan fodolaeth S4C ac oedd yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ei hun. Dyna pam gwrthodais i dalu fy nhrwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch. Fe fydd S4C yn wynebu cwtogiad pob blwyddyn tan 2017 a doedd dim ymgynghoriad gyda Llywodraeth Cymru na phobl Cymru. Bu'r sefyllfa fel pe na ddigwyddodd datganoli.
"Parha'r ymgyrch i sicrhau darlledu Cymraeg a Saesneg safonol yng Nghymru ac yn ganolog i hynny yw'r gofyniad i ddatganoli'r cyfrifoldebau dros ddatganoli i Gymru.
"Ddydd Sadwrn diwethaf, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddant yn gofyn i'w cefnogwyr ddechrau talu eu trwydded deledu eto, er bydd nifer dal yn ymddangos gerbron Ynadon dros yr wythnosau nesaf."
Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Hoffwn ddiolch i Jill a'r degau o filoedd sydd yn cefnogi ein hymgyrch i sicrhau dyfodol i'n hunig sianel deledu Cymraeg. Mae'r Gymraeg yn drysor unigryw i'n gwlad, a'i phresenoldeb yn y cyfryngau yn hanfodol os yw'r iaith i oroesi a ffynnu. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb fu'n rhan o'r ymgyrch trwydded deledu, gobeithio y bydd cenedlaethau i ddod yn cydnabod eu cyfraniad i ddyfodol yr iaith. Mae'n glir bod eu gweithredoedd wedi gwneud gwahaniaeth, ac mae rhyw fath o ddyfodol wedi'i sicrhau i S4C drwy hynny.
"Wrth i'n hymgyrch barhau, fe fyddwn ni'n galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru - a byddwn ni'n cwrdd â gwleidyddion ddydd Mawrth nesaf i bwyso arnyn nhw. Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth dros ddarlledu yn y dyfodol yw sicrhau mai gwleidyddion yng Nghymru fydd yn gyfrifol."
Ychwanegodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Fe fydd ein hymgyrch yn parhau i roi cyfle i bobl godi llais wrth i'r llywodraeth a'r BBC gyd-gynllwynio a phenderfynu ar ddyfodol S4C. Fe fyddwn yn parhau i gydweithio â'r undebau i atal y toriadau sydd yn tanseilio cyfleoedd gwaith i bobl ifanc, yr iaith ac ein heconomi. Bu'r cynlluniau o'r dechrau yn diystyru barn pobl Cymru ac mae'r cytundeb diweddar rhwng y BBC ac S4C yn hollol annemocrataidd gan iddo ddigwydd tu ôl i ddrysau caeedig heb ymgynghoriad. Galwn ar i'r Ynadon yn achos llys Jill Evans i gydnabod y sefyllfa annemocrataidd."