Lansio Bil Cynllunio er mwyn ymateb i anghenion Cymru

‘Gwrth-droi’r lli yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau’, dyna ddisgrifiad Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith o fwriad y Mesur Cynllunio mae’r mudiad yn ei lansio yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw.

Bydd Mesur Eiddo a Chynllunio, a ddrafftiwyd gan y grŵp pwyso, yn amlinellu pecyn o newidiadau er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg yn ogystal ag ehangu ei defnydd ym mhob rhan o Gymru.

Daw’r lansiad wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg, ac hynny er holl bwyslais pwysigrwydd y maes yn y Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad y Llywodraeth ar sefyllfa’r Gymraeg.  Ymysg y cynigion ym Mesur Cymdeithas yr Iaith a lansir heddiw, mae’r syniadau canlynol:

  • gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith iaith;
  • gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau;
  • sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol;
  • sefydlu Continiwm Datblygu’r Gymraeg er mwyn i’r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol ar hyd a lled y wlad; a
  • sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol

Yn siarad cyn y lansiad, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae'n Bil ni yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru i ddangos bod nhw o ddifrif am sichrau dyfodol cymunedau Cymraeg a gallu pobl i fyw yn Gymraeg. Nawr yw'r amser i Aelodau Cynulliad o bob plaid i ddangos bod nhw o ddifrif.  Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd ddod.”

“Mae ein cynigion ni yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd.  Rydyn ni wedi galw am chwyldroi’r system gynllunio fel rhan o’r chwe newid polisi sydd ei angen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad. Rydyn ni bellach wedi rhoi ein syniadau, nifer ohonynt yn rhai newydd ac arloesol, mewn ffurf ddeddfwriaethol."

Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg, megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan. Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydym yn cynnig gweledigaeth o’r math o system a fyddai’n gweithio o blaid ein cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Hoffem glywed barn pobl o bob ran o Gymru ar ein cynigion drafft. Yn wahanol i’r Llywodraeth, mae bys Cymdeithas yr Iaith ar byls dyheadau a dymuniadau gwahanol gymunedau ar hyd a lled Cymru. Rydym yn ffyddiog bod cynnwys ein dogfen yn fwy cydnaws o lawer gydag anghenion y cymunedau nag yw un y Llywodraeth.”

Cliciwch yma i ddarllen ein Bil Eiddo a Chynllunio (Drafft Ymgynghorol)