Ar ddydd Mercher, y 23ain o Dachwedd bydd cyfres achosion llys aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio. Ar fore Mercher bydd pedair o ferched yn wynebu achos llys yng Nghaerdydd. Y pedair yw Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Sir Gaerfyrddin.
Mae’r gyfres o weithredu uniongyrchol yn parhau hyd y nadolig gyda nifer o achosion llys wedi eu pennu yn ogystal. Mae’r aelodau yn gweithredu er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith y Gymdeithas:"Dyma’r gyntaf mewn cyfres o achosion llys mae aelodau’r Gymdeithas yn eu hwynebu. Bydd nifer o bobl adnabyddus yng Nghymru yn mynychu’r achosion er mwyn cynnig gair o gefnogaeth i’r ymgyrchwyr. Mae’r achosion yn crisialu difrifoldeb y sefyllfa ac yn rhoi mwy o bwys ar yr angen am Ddeddfwriaeth gadarnach. Bydd yr ymgyrchu yn parhau hyd nes y bydd Rhodri Morgan a’i lywodraeth yn trafod yr angen am Ddeddf Iaith.""Nid Cymdeithas yr Iaith yn unig sy’n galw am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg. Bellach mae yna gonsensws ymhlith arbennigwyr iaith a gwleidyddion o bob plaid. Mae’n arferol ail-edrych ar ddeddfwriaeth gymdeithasol bob deng mlynedd. Pam nad yw llywodraeth lafur y Cynulliad yn cydnabod hyn?""Mae’r achosion llys heddiw yn crisialu argyfwng y sefyllfa gyfredol. Mae hefyd yn pwysleisio’r croesdyniadau yn stori Rhodri Morgan ym mherthynas Deddf yr Iaith 1993. Yn 1993, pendrefynodd beidio pledleisio dros y Ddeddf ond erbyn heddiw, mae’r ddeddf yn dderbyniol. Mae’r achosion a’r gyfres sy’n dilyn yn arwydd o ddiffyg cysondeb Rhodri Morgan a’i lywodraeth a’i difaterwch tuag at y Gymraeg."Yr 14 sydd wedi gweithredu hyd yn hyn yw:1.) Menna Machreth o Landdarog2.) Lois Barrar o Nelson3.) Gwyn Siôn Ifan o’r Bala4.) Dafydd Morgan Lewis o Aberystwyth5.) Osian Rhys o Bontypridd6.) Mair Stuart o’r Barry7.) Lowri Larsen o Gaernarfon8.) Angharad Clwyd o Bont Tyweli9.) Angharad Clwyd o Bont Tyweli (ddwywaith)10) Siriol Teifi o Sir Gaerfyrddin11) Siwan Tomos o Sir Gaerfyrddin12) Hywel Griffiths o Gaerfyrddin13) Huw Lewis o Aberystwyth14) Gwenno Teifi o Sir GaerfyrddinAchosion Llys Nesaf:1af o RhagfyrDafydd Morgan LewisOsian Rhys2il o RhagfyrHywel GriffithsHuw LewisAngharad Clwyd