Lansio gwefan Newydd

Steddfod yr Urdd Am un o’r gloch dydd Mercher Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei gwefan newydd yn eu huned ar Faes Eisteddfod yr Urdd.

Dywedodd Hedd Gwynfor, Is- Gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn ystod y lansiad bydd y 'Gwe-ddyn' yn galw arnoch i ymuno gydag ef yn y gwaith o gario'r frwydr dros y Gymraeg i mewn i'r unfed ganrif ar hugain!"“Mae’r wefan newydd yn gyffrous, yn fywiog, ac yn arf cwbl allweddol yn y frwydr dros barhâd yr Iaith Gymraeg."Steddfod yr Urdd“Ar y wefan hon bydd modd i’n haelodau, ac unrhyw un arall sydd a diddordeb i fynegi eu cwynion os nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg neu os oes unrhyw ddatblygiad penodol yn peryglu eu cymuned.“ Drwy’r wefan bydd modd anfon negeseuon yn uniongyrchol at Weinidogion y Cynulliad neu swyddogion y Bwrdd Iaith. Gyda’r wefan hon byddwn yn fwy o niwsans nac erioed i’r sefydliad yng Nghymru.“ Bydd modd ymaelodi â’r Gymdeithas drwy’r wefan a cyn hir bydd modd prynu ein nwyddau ar lein.“ Mae’r wefan hon yn profi unwaith eto fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar flaen y gad yn y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yng Nghymru.”Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd