Am un o’r gloch dydd Mercher Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ei gwefan newydd yn eu huned ar Faes Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Hedd Gwynfor, Is- Gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn ystod y lansiad bydd y 'Gwe-ddyn' yn galw arnoch i ymuno gydag ef yn y gwaith o gario'r frwydr dros y Gymraeg i mewn i'r unfed ganrif ar hugain!"“Mae’r wefan newydd yn gyffrous, yn fywiog, ac yn arf cwbl allweddol yn y frwydr dros barhâd yr Iaith Gymraeg."“Ar y wefan hon bydd modd i’n haelodau, ac unrhyw un arall sydd a diddordeb i fynegi eu cwynion os nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg neu os oes unrhyw ddatblygiad penodol yn peryglu eu cymuned.“ Drwy’r wefan bydd modd anfon negeseuon yn uniongyrchol at Weinidogion y Cynulliad neu swyddogion y Bwrdd Iaith. Gyda’r wefan hon byddwn yn fwy o niwsans nac erioed i’r sefydliad yng Nghymru.“ Bydd modd ymaelodi â’r Gymdeithas drwy’r wefan a cyn hir bydd modd prynu ein nwyddau ar lein.“ Mae’r wefan hon yn profi unwaith eto fod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar flaen y gad yn y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yng Nghymru.”Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd