Ar ddydd Mercher 26ain o Fehefin, bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi galwadau i gryfhau'r Gymraeg gerbon Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth iddynt lansio Siarter Sir Gâr.
Mae'r Siarter, sydd yn ymwneud â meysydd tai a chynllunio, addysg, iechyd, hamdden a defnydd y Gymraeg o fewn y Cyngor Sir; yn ddogfen o alwadau radical, ond ymarferol, i'r Cyngor eu gweithredu.
Dywedodd Heledd ap Gwynfor, aelod o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
“Er i'r Cyngor sefydlu grŵp i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir mewn ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad mae'n bwysig i ni weld gweithredoedd. Yn y siarter mae galwadau clir arnyn nhw i weithredu ar draws pob maes ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bawb. Mae'r Siarter yn ddogfen sydd yn cynnwys pob sector gan fod y Gymraeg yn rhywbeth sydd yn berthnasol i bob agwedd o fywyd, nid yn rhywbeth ar wahân neu yn ychwanegol. O weithredu pwyntiau'r Siarter byddai creu sylfaen cryf ar gyfer y Gymraeg yn y sir.”
Wrth sôn am rai o'r galwadau penodol dywedodd Cen Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gymunedau cynaliadwy:
“Mae datblygu tai wedi bod yn bwnc sydd wedi cael tipyn o sylw yn y sir yn ddiweddar oherwydd dau ddatblygiad sydd yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol. Yn siambr y Cyngor bythefnos yn ôl trechwyd cynnig i alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff statudol i ystyried effaith cynlluniau datblygu ar yr iaith Gymraeg. Rydyn ni felly yn galw ar y cyngor i sefydlu cynllun peilot arbrofol yn y sir i'r perwyl hynny. Mae angen i'r Cyngor fod yn flaengar os ydynt o ddifrif dros greu cymunedau Cymraeg.”
Ychwanegodd Sioned Elin, Cadeirydd y rhanbarth yn Sir Gaerfyrddin:
“Mae nifer o alwadau yn y siarter y gallai'r Cyngor dechrau eu gweithredu yn syth – rhoi cynllun ar waith i newid iaith weinyddol y cyngor sir – gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd, a chydnabod fod y Gymraeg yn sgil hanfodol y dylai'r Cyngor alluogi pawb i feddu arni.
“Wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin edrych i'r dyfodol mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried sut i alluogi pobl i fyw mewn cymunedau Cymraeg ar draws y sir. Mae'n golygu sicrhau bod gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gael – fel addysg, darpariaeth hamdden, swyddi gwerth chweil, a thai addas i deuluoedd a phobl ifanc. Rydyn ni'n disgwyl i'r Cyngor greu amgylchiadau i bobl allu byw yn Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, byddai gweithredu'r siarter yn cyfrannu at wneud hynny'n bosibl.”
Wedi lansio'r Siarter bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei gyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin. Yn derbyn y Siarter bydd arweinydd y Cyngor, Cyng. Kevin Madge, y Prif Weithredwr Cynorthwyol, Chris Burns a'r Cyng. Mair Stephens sydd yn dal portffolio'r iaith Gymraeg ar gabinet y Cyngor Sir.