Yn dilyn methiant Llywodraeth y Cynulliad heddiw i glustnodi unrhyw gyllid sylweddol ar gyfer datrys y broblem dai yn ei cymunedau Cymraeg, mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhoeddi heddiw newid cyfeiriad radicalaidd yn ei hymgyrch dros ddyfodol y cymunedau hynny.
Esboniodd Hedd Gwynfor (Is-Gadeirydd Cyfathrebu’r Gymdeithas)“Ers tair blynedd yr ydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i wneud yr hyn sydd o fewn eu gallu nhw i alluogi Cymry Cymraeg ifanc i brynu tai yn eu cymunedau. Yr ydym wedi gofyn yn arbennig am:1. Cynyddu’n sylweddol y ddarpariaeth arbennig ar gyfer Cynllun Cymorth Prynu o’r £2m presenol i £5m eleni gydag addewid i gynyddu – er mwyn gwneud gwahaniaeth real yn nifer y bobl sy’n gallu fforddio prynu tai yn eu cymunedau, a2. Sefydlu Cronfa arbennig ‘Hawl i Rentu’ ar gyfer y bobl hynny na allant fforddio prynu tai hyd yn oed gyda chynllun ‘Cymorth Prynu.’”Gweithredu“Yr ydym wedi lobio a chynnal cyfarfodydd gyda Gweinidogion y Cynulliad, ac wedi gweithredu’n uniongyrchol, gyda’r diweddaraf neithiwr pan beintiwyd y geiriau ‘Cymorth Prynu - £5 miliwn’ ar furiau Swyddfa’r Cynulliad yng Nghaernarfon.Heddiw, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi eu cyllideb derfynol ar ran y flwyddyn nesaf. Maent wedi cydnabod anghenion arbennig ar gyfer materion fel iechyd, cytundeb athrawon, treth claddu sbwriel ac wedi dyrannu arian ychwanegol ar eu cyfer. Ond nid ydynt yn cydnabod fod argyfwng ein Cymunedau Cymraeg yn werth unrhyw gyllid ychwanegol.”Ymgyrch ddifrifol Newydd“Datganwn heddiw fod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu yn eu cyfrifoldeb tuag at ein Cymunedau Cymraeg. O nawr ymlaen felly, bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu’n egniol am Ddeddf Eiddo lawn yn hytrach na phwyso’n unig ar y Cynulliad i wneud yr hyn sydd o fewn eu gallu presennol.Mae’r holl farchnad dai’n milwra’n erbyn gallu ein pobl ifanc i brynu tai yn ein Cymunedau Cymraeg. Byddwn yn lobio ac yn ymgyrchu trwy weithredu uniongyrchol i ddarbwyllo’r Cynulliad i fynnu gan San Steffan Ddeddf Eiddo lawn a rydd i Gymunedau lleol reolaeth ar y farchnad dai.”Protest CalanBydd yr ymgyrch newydd yn cychwyn mewn protest fawr wrth adeilad y Cynulliad yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun y 3ydd o Ionawr 2005. Blwyddyn Newydd, Gweithredu Newydd!Stori llawn oddi ar wefan y Daily PostGweithredu Uniongyrchol yng Nghaernarfon - 02/11/04Yn ystod oriau man y bore (2/11/04), peintiwyd y slogan – ‘Cymorth Prynu - £5 miliwn’ – gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar furiau swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon.Mae’r weithred hon, yn dilyn gweithred debyg wythnos yn ôl yn erbyn un o swyddfeydd eraill y Llywodraeth yn Aberystwyth. Cyflawnwyd y gweithredoedd hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyllideb drafft y Llywodraeth (a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl), yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol. O hyn, hyd at gyhoeddi fersiwn derfynol y gyllideb, bydd y Gymdeithas yn gweithredu er mwyn pwysleisio difrifoldeb yr argyfwng tai sydd yn wynebu ein cymunedau Cymraeg.Ers yr etholiad diwethaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd dau gam syml, sydd o fewn ei rymoedd presennol, er mwyn lleddfu effeithiau yr argyfwng tai:1. Cynyddu’r arian a ganiateir ar gyfer Cymorth Prynu i o leiaf £5 miliwn y flwyddyn, gyda rhaglen i gynyddu’r gwariant i lefel a wna wir wahaniaeth i’r nifer o deuluoedd a fydd yn medru fforddio prynu tai.2. Sefydlu cronfa ‘Hawl i Rentu’, gan gydnabod fod prisiau tai wedi codi cymaint mewn llawer o gymunedau Cymraeg nes ei bod yn amhosibl i Gymry ifanc brynu tai hyd yn oed gyda chymorth."Meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas:“Nid yw’r cynnigion ar gyfer maes tai yn y gyllideb ddrafft yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cynnydd sylweddol yng nghyllideb y Cynllun Cymorth Prynu ac nid oes son am sefydlu cronfa ‘Hawl i Rentu’. Yn wir, mae angen pwysleisio fod cyllideb y Grant Tai Cymdeithasol yn parhau yn is nag ydoedd yn nyddiau’r Swyddfa Gymreig a hynny er gwaethaf y twf anferthol a welwyd yn y farchnad dai dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, bydd y Gymdeithas yn gweithredu yn gyson o nawr hyd cyhoeddu fersiwn derfynol y gyllideb, er mwyn pwysleisio yr angen am arian ychwanegol."Stori llawn oddi ar wefan y Daily Post