Comisiynydd y Gymraeg yn cefnu ar fframwaith hawliau iaith Mesur y Gymraeg 2011

Mae gwybodaeth wedi dod i law trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth wedi dangos bod swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal llai o ymchwiliadau i achosion o dorri’r Safonau'r Gymraeg a bod canran y cwynion sy’n arwain at ymchwiliadau yn disgyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Ar ben hynny, mae newidiadau arfaethedig i Bolisi Gorfodi’r Comisiynydd a chynnwys y Cynllun Strategol cyfredol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi llawer llai o bwyslais ar hawliau a gofynion statudol ar y cyrff sydd yn dod o dan Mesur y Gymraeg 2011.

Yn 2021/22 fe wnaeth y Comisiynydd ymchwilio i 63% o’r cwynion a dderbyniwyd (66 o’r 104 cwyn ddilys), ond erbyn 2023/24 roedd y ganran wedi disgyn i 44% (42 o’r 95 cwyn ddilys). Mae’r ganran wedi disgyn er bod nifer y cwynion dilys yn is, sy'n golygu bod y Comisiynydd wedi ymchwilio i nifer sylweddol yn llai o gwynion.

Dywedodd Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’r ffaith bod y Comisiynydd yn cynnal llai o ymchwiliadau yn destun pryder. Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn sefydlu Comisiynydd y Gymraeg yn eiriolwr ac yn rheoleiddiwr ar y cyrff sy’n dod o dan Safonau'r Gymraeg er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Heb ymchwiliad i gŵyn, ni all y Comisiynydd ddefnyddio pwerau gorfodi i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg o’r ansawdd angenrheidiol. Mae’r duedd gynyddol i beidio ymchwilio i gwynion yn creu perygl y bydd cyrff yn poeni llai am gydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol, a bydd pobl gyffredin yn colli ffydd yn y gyfundrefn.
“Mae’n arwyddocaol mai trwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y cawsom y wybodaeth yma, gan nad oedd ar gael yn gyhoeddus. Hyd at 2023, roedd gwybodaeth am nifer y cwynion, yr ymchwiliadau i gwynion a’r canlyniadau yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Mae angen cynyddu’r adrodd ar nifer, natur a datrysiad y cwynion a wneir. Mae cwyno yn beth anodd i'w wneud yn y lle cyntaf ac mae cynnal hyder y cyhoedd yn y dref gwyno yn holl bwysig.”

Ein pryder ni yw bod hyn yn rhan o batrwm gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg o wanhau y drefn orfodi o dan Safonau'r Gymraeg a bod hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu gwanhau.

Ychwanegodd Siân Howys:
“Yn ddiweddar mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Polisi Gorfodi drafft newydd sy’n symud at fodel “cyd-reoleiddio”, symudiad rydyn ni’n ei wrthwynebu. Roeddem wedi ein synnu hefyd bod y gair “hawl” ond yn cael ei ddefnyddio unwaith yn y Cynllun Strategol newydd, a hynny ar ei ddiwedd, ac nad oedd defnydd o’r gair o gwbl yn y drafft ymgynghorol. Swyddogaeth graidd y Comisiynydd yw bod yn rheoleiddiwr annibynnol sy’n gwarantu hawliau i'r Gymraeg. Rydyn ni wedi pwysleisio hynny mewn ymateb i ymgynghoriadau diweddar i Gynllun Strategol a Pholisi Gorfodi’r Comisiynydd ac rydyn ni’n galw ar y Comisiynydd i gryfhau ac nid gwanhau y Polisi Gorfodi. ”