Llongyfarch y Comisiynydd ar fynd i’r uchel lys

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i herio yn yr uchel lys ymgais Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol i gael gwared ar eu gwasanaethau Cymraeg.  

Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n falch bod y Comisiynydd yn defnyddio ei phwerau statudol yn yr achos yma. Mae’r cam hwn yn dangos gwerth a phwysigrwydd y Comisiynydd, sydd wir ei angen i leisio barn dros y Gymraeg a’i defnyddwyr. Mae nifer o adrannau Llywodraeth Prydain ac eraill yn defnyddio’r toriadau fel esgus i ddileu gwasanaethau Cymraeg, fel rhan o ymosodiad ehangach ar bobl ar ymylon ein cymdeithas. Bellach, mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yn y wlad, ac mae’n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod gan bobl Cymru yr hawl i fyw yn Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau. Wedi’r cyfan, gwneud yr hawl honno yn real yw pwrpas y safonau y bydd y Llywodraeth yn eu cyhoeddi a’u pasio yn fuan iawn gobeithio.”