Llwgrwobrwyo'r Comisiynydd i wanhau hawliau iaith - Cerdyn Nadolig

Derbyniodd Comisiynydd y Gymraeg gerdyn Nadolig dychanol oddi wrth ymgyrchwyr heddiw sy’n honni bod Llywodraeth Cymru wedi ei lwgrwobrwyo i wanhau hawliau iaith.

Mae’r Comisiynydd, a ddechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni, wedi bod yn ymchwilio i lai na 40% o’r cwynion a dderbynnir ganddo - hanner lefel ei ragflaenydd. Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i’r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.

[Darllenwch fwy o'r cefndir drwy glicio yma]

Yn gynharach eleni, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau. Yn ôl rhagor o ddogfennau a ryddhawyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, ym mis Awst eleni anfonodd y Comisiynydd lythyr at Weinidog y Gymraeg yn brolio ei fod yn cynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei fod ‘ddiolchgar’ i’r Gweinidog am ei ‘[h]arweiniad ar y mater’. Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud ei bod yn ‘croesawu’ yr ystadegau ‘calonogol’. 

Mewn papur mewnol y Llywodraeth o fis Ebrill eleni, dywedodd gweision sifil “… byddwn yn disgwyl i'r Comisiynydd o leiaf newid ei ffocws o fod yn rheoleiddiwr sy'n ymateb i gwynion … pe bai'r swyddfa'r Comisiynydd yn newid ei ffocws fel y nodwyd uchod ac yn gwneud newidiadau i'w drefniadau llywodraethu, y byddai'r Llywodraeth yn ystyried wedyn a ddylid trosglwyddo cyfrifoldebau pellach i'r Comisiynydd.” Mae’r papur yn mynd ymlaen i argymell: “Is-adran y Gymraeg i sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer noddi’r Comisiynydd gyda’r nod fod y Comisiynydd yn newid pwyslais wrth weithredu ei swyddogaethau rheoleiddio." Mae deddfwriaeth yn gwahardd y Llywodraeth rhag cyfarwyddo’r Comisiynydd am sut i ddefnyddio ei bwerau gorfodi.

Dywed Leena Sarah Farhat, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Mae bellach yn glir bod y Comisiynydd newydd, yn dilyn cais gan Weinidog y Llywodraeth, wedi gwneud ymdrech fwriadol i leihau nifer a chanran yr ymchwiliadau i gwynion a gynhelir ganddo, a hynny er mwyn sicrhau rhagor o gyllid a chyfrifoldebau o du Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn gyfystyr â llwgrwobrwyo a chamymddygiad difrifol. Nid buddiannau’r Gymraeg a’i siaradwyr sydd wrth wraidd y newid polisi a’r penderfyniad i gynnal llawer llai o ymchwiliadau, ond ymgais i gynyddu cyllideb ac adnoddau’r Comisiynydd a’i swyddfa. Mae’r ohebiaeth yn dangos bod y Comisiynydd wedi newid ei ddefnydd o’i bwerau a pholisïau gorfodi ar gais y Llywodraeth - dyw e ddim yn rheoleiddio’n annibynnol. 

“Mae pobl wedi brwydro’n galed ers degawdau i ennill hawliau iaith, nid lle’r Comisiynydd yw dewis a dethol pa rai mae e’n poeni amdanyn nhw. Mae’n destun pryder mawr bod llai a llai o gwynion yn derbyn ymchwiliad statudol. Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn gwanhau ein hawliau iaith. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu arferion sefydliad. Felly, drwy ymddwyn fel hyn, bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu’r gyfraith. Tra bod pobl o ganlyniad yn parhau i wynebu rhwystrau i siarad Cymraeg, mae ‘na berygl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â’u cwynion o ddifrif. Dylai’r Comisiynydd ganolbwyntio ar wneud ei gyfrifoldebau rheoleiddio presennol yn iawn er lles y Gymraeg, yn hytrach na gwasanaethu mympwy Llywodraeth y dydd.”

“Mae nifer o’n haelodau a’n cefnogwyr yn pryderu nad yw gwasanaethau Cymraeg yn bodoli neu’n gwella fel y gallen nhw o achos y newidiadau yn y ffordd mae’r Comisiynydd newydd wedi bod yn ymdrin â chwynion. Mewn nifer o achosion unigol, mae’r newid polisi wedi effeithio’n negyddol ar yr unigolion sydd wedi cwyno - dydyn nhw ddim wedi cael cyfiawnder. Mae’r newid i’r ffordd mae’r Comisiynydd a’i swyddogion yn ymdrin â chwynion yn groes i lythyren ac ysbryd nifer o ddarpariaethau deddfwriaeth, polisi ac arfer gweinyddiaeth dda.”