Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gefnogi cymuned Waungilwen, Drefach Felindre a gwrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatau datblygiad o 13 o dai yn y pentref. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddoe 23/11/10 fe siaradodd aelodau o gymuned Waungilwen a'r cynghorydd sir leol John Crossley yn gryf yn erbyn y cais yma a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar iaith a diwylliant y gymuned fach glos yma. Hefyd yn siarad roedd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a Chynghorydd Cymuned yn ward Llangeler. Yn ei haraith wrth annerch y cynghorwyr dywedodd:"Fe fyddai pleidleisio o blaid y datblygiad yma heddiw yn ergyd enfawr i'r iaith Gymraeg ac i gymuned Waungilwen sydd yn gymuned a 64% yn siarad Cymraeg yn ol cyfrifiad 2001. Pan welwch chi fel Cynghorwyr, cymuned yn brwydro mor gryf dros eu dyfodol fe fuaswn yn gofyn i chi eu cefnogi'n llwyr."Mewn ymateb i bleidlais y Cynghorwyr a bleidleisiodd 9 i 8 i wrthod y cais dywedodd Ms Clwyd:"Mae'r canlyniad yma yn newyddion gwych i gymuned Waungilwen sydd wedi brwydro'n hynod o galed dros y blynyddoedd diwethaf i wrthwynebu'r cynlluniau yma ac yn dyst i'w gwaith diflino a'u hagosatrwydd fel cymuned. Hoffwn longyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gael y dewrder i wrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio a hynny oherwydd yr effaith y byddai'r datblygiad arfaethedig wedi ei gael ar iaith a diwylliant y gymuned yn ogystal ag oherwydd y perygl o lifogydd. Ychydig wythnosau yn ol fe basiwyd cynnig yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yn gofyn ar i gynrychiolwyr etholedig ein pobl i gipio'r rheolaeth yn ôl oddi wrth y swyddogion, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ein Cynghorau Sir. Rydym yn hynod o falch fod Cynghorwyr y pwyllgor cynllunio wedi dangos arweiniad yma ac wedi gwneud penderfyniad ar sail yr effaith ar ein cymunedau. Gofynnwn i Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir i ddilyn arweiniad y pwyllgor cynllunio wrth drafod ein cymunedau a dyfodol ein hysgolion pentrefol."http://arlein.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20101123/SUM03.HTMhttp://arlein.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20101123/SUM03_01.HTM