Annwyl Rhodri Glyn Thomas (Gweinidog Treftadaeth),Rwy’n ysgrifennu ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddatgan siom ein haelodau bod Llywodraeth y Cynulliad wedi torri ei haddewid i sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Nid wyf yn cwestiynu eich ymrwymiad personol i’r cysyniad, ond mae’n rhaid i mi gwestiynu rhai pethau sydd yn ymddangos fel gwrthddweud llwyr ym mholisïau’r llywodraeth. Mae’r addewid hwn i sefydlu papur dyddiol Cymraeg yn gwbl glir yng Nghytundeb Cymru’n Un: “Byddwn yn cynyddu’r cyllid a’r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.”Deiseb Arlein - http://deiseb.cymdeithas.org
Rhaid inni bwysleisio’r ffaith nad yw’r cyllid a gyhoeddwyd gennych yn ddigon i wireddu sefydlu papur dyddiol yn Gymraeg. Yn ôl ymchwil trylwyr a phroffesiynol Dyddiol Cyf, ni fydd yn bosib sefydlu papur o’r fath heb gymhorthdal o £600,000 o leiaf y flwyddyn, ac roedd y ffigyrau yma yn hysbys i bob plaid wleidyddol cyn iddynt lunio eu maniffesto ar gyfer etholiad mis Mai 2007, a chyn i Blaid Cymru a’r Blaid Lafur ymrwymo i gytundeb Cymru’n Un. Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ers eich datganiad na fydd modd iddo barhau gyda’r fenter o sefydlu papur dyddiol credadwy, ac ei fod yn annhebyg iawn y bydd unrhyw un arall yn gallu gwneud ‘chwaith.Mae adroddiad Tony Bianchi yn cadarnhau hyn, gan ddweud na fydd yn bosib i unrhyw gwmni sefydlu papur newydd dyddiol heb y fath swm o arian. Nid yw £200,000, i’w rannu rhwng bob elfen o’r wasg brintiedig yn ddigon felly, ac mae profiad papurau dyddiol mewn ieithoedd lleiafrifol eraill yn profi hyn. Er enghraifft mae’r papur Basgeg Berria, sy’n derbyn cymhorthdal o dros £1.2 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Gwlad y Basg yn ffynnu, tra bod y papur Gaeleg Lá Nua yng Ngogledd Iwerddon, sy’n derbyn grant o £200,000 y flwyddyn yn unig gan y llywodraeth, newydd gyhoeddi y bydd yn cau erbyn diwedd y mis oherwydd trafferthion ariannol.Credwn fod y llywodraeth wedi torri ei addewid i sefydlu papur dyddiol ac mae’r tro pedol yma wedi siomi aelodau Cymdeithas yr Iaith yn fawr. Ymhellach, credwn bod ffydd pobl Cymru yn y glymblaid ac yn ei gallu i gadw at ei haddewidion dros y Gymraeg wedi cael ei siglo. Mae’r amseru a’r amgylchiadau ar gyfer sefydlu papur dyddiol Cymraeg cystal ag y maent yn debygol o fod ar hyn o bryd, gan bod Dyddiol Cyf wedi gwneud cystal gwaith ymchwil a marchnata, a gan bod gennym lwyr ddealltwriaeth o’r wasg brintiedig o ganlyniad i adroddiad Tony Bianchi.Galwn arnoch fel Gweinidog i sicrhau bod y llywodraeth yn gwireddu ar frys yr addewid clir i sefydlu papur dyddiol Cymraeg a gyhoeddwyd yn Cymru’n Un, a galwn am gyhoeddiad newydd gan y llywodraeth bod swm digonol yn cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer sefydlu papur cenedlaethol annibynnol yn Gymraeg. Ni fydd dim llai yn ddigon da!Rydym wedi cychwyn deiseb arlein i’r perwyl hwn - http://deiseb.cymdeithas.orgYn Gywir,Hywel GriffithsCadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg