Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw, galwodd Cymdeithas yr Iaith am wersi Cymraeg am ddim i fudwyr, gan honni bod polisi presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn 'rhan o ragfarn ehangach yn erbyn mudwyr'.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru yn ariannu cyrsiau Saesneg am ddim i bob ffoadur a cheisiwr lloches yng Nghymru. Ond nid oes gwersi Cymraeg ar gael am ddim i fudwyr mewn llawer o ardaloedd. Yng Nghaerdydd, mae prosiect dros dro yn darparu gwersi i ffoaduriaid, ond nid yw'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Prydain.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno am yr hyn mae'n ei alw'n sefyllfa annheg mewn gohebiaeth ddiweddar at y Swyddfa Gartref, Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru. Nid yw'r mudiad wedi cael ateb i'w llythyr gan y Swyddfa Gartref, ond dywedodd Julie James AC ar ran Llywodraeth Cymru: "Lle bo'n briodol, mae dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn cael eu hannog wedyn i ddefnyddio'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion er mwyn dysgu Cymraeg ... Pan fo ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi'u hadleoli mewn ardaloedd o Gymru lle mae llawer yn siarad Cymraeg, mae Swyddfa Gartref y DU wedi cytuno y gellir defnyddio cyllid Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill i gefnogi dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn ogystal â rhai ar gyfer dysgu Saesneg."
Dywedodd Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe, oedd yn siarad yn y digwyddiad ar faes yr Eisteddfod:
“Mae canlyniadau fy ymchwil yn awgrymu nad yw safiad Llywodraeth Cymru fawr gwahanol i safiad y Swyddfa Gartref ynghylch y mater o integreiddio mewnfudwyr. Mae'r ddwy yn lledu syniadau am oruchafiaeth y Saesneg ac yn dibrisio pwysigrwydd unrhyw iaith arall i fywydau mewnfudwyr yng Nghymru."
Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae’r ddwy lywodraeth yn rhagfarnu yn erbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn sawl ffordd. Fe ddylen ni fod yn eu croesawu nhw'n wresog, a hynny yn Gymraeg. Dylai Cymru fod ar flaen y gad yn hyn o beth. Fel un a'm teulu wedi dod i Gymru o'r Eidal genhedlaeth yn ôl, sydd wedi cofleidio'r Gymraeg, dw i'n gwybod faint o gyfraniad mae mudwyr wedi'i wneud i ffyniant yr iaith, a'r Gymraeg yn rhodd iddyn nhw hefyd.
"Mae'r frwydr dros ein hiaith a chyfiawnder i'n holl gymunedau yn cydblethu, ac mae achosion fel hyn yn ein hatgoffa ni bod y frwydr yr iaith yn rhan o'r frwydr ehangach honno dros hawliau a chyfiawnder. Mae Llywodraeth Prydain yn carcharu ceiswyr lloches am gyfnodau amhenodedig, am flynyddoedd lawer weithiau dim ond oherwydd nad yw'r pasbort "cywir" ganddyn nhw. Mae Llywodraeth Prydain hefyd yn nacáu eu hawliau i addysg yn ehangach a'u hawl i weithio. I fod yn gymdeithas gyfiawn, mae'n rhaid i ni daclo'r holl anghyfiawnderau hynny sy'n wynebu mudwyr sy'n dod i Gymru, ac mae hawliau i'r Gymraeg yn rhan o hynny. Rydyn ni'n mynnu bod gan bob un mudwr sy'n dod i Gymru hawl i wersi Cymraeg am ddim."
Hefyd yn siarad yn y digwyddiad ar y maes, roedd George Baptiste, ffoadur o Orllewin Affrica, sydd wedi dysgu Cymraeg o fewn tri mis o gyrraedd Cymru.