Llywodraeth y Cynulliad ar fin chwyldroi addysg uwch Cymraeg?

Protest Coleg FfederalAm 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.

Mae hwn yn gynnig blaengar iawn gan ei fod yn ymdrech i greu sefydliad addysg uwch Gymraeg a fyddai’n cryfhau a gwasanaethu anghenion cymunedau Cymru’n hytrach na bod yn ddynwarediad gwan o brifysgolion Lloegr. Byddai’r addysg yn cael ei chynnig nid yn unig ar feysydd colegol, ond hefyd mewn safleoedd cymunedol a gweithleoedd.Mae’r cyfarfod yn sicr yn haeddu’i le yn uned Llywodraeth y Cynulliad gan fod yma ymgais i chwyldroi addysg uwch yng Nghymru trwy newid nid yn unig cyfrwng yr addysg, ond hefyd yr holl gynnwys a’r dull o gyflwyno’r addysg yn ogystal a chreu dull newydd o gyllido addysg uwch. Mae’r cynnig yn ddim llai nag ymdrech i dorri i lawr y gwahanfur rhwng y “byd addysg” a’r “byd go iawn”.Byddai myfyrwyr – yn llawn amser a rhai rhan amser mewn gwaith – yn derbyn llawer o’u profiad addysgol trwy gyflawni prosiectau ymchwil mewn cymunedau lleol. Yn lle cyflogi a chynnal y pla o ymgynghorwyr sydd gennym yng Nghymru, gallai Cynghorau Sir a chyrff cyhoeddus fel Awdurdodau Dwr ac Iechyd a Llywodraeth y Cynulliad ei hunan gomisiynu ymchwil gan y Coleg aml-safle i greu Astudiaethau Effaith o wahanol ddatblygiadau ar economi, ecoleg, diwylliant a gwead cymdeithasol Cymru.Gallai myfyrwyr llawn amser dreulio peth o’u hamser yn arwain cyrsiau mewn addysg gymunedol gan gyfarwyddo ymchwil cymunedol pellach. Byddai’r Cyrff cyhoeddus yn talu’r Coleg am eu gwaith, a byddai myfyrwyr yn derbyn profiad gwaith felly ochr yn ochr a’u profiad addysgol.Dywed Ffred Ffransis (llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg), “Trwy’r cynnig hwn, gallai Coleg aml-safle Cymraeg fod yn esiampl flaengar ar gyfer addysg uwch yn gyffredinol gan wasanaethu’n pobl yn lle ceisio cystadlu gyda phrifysgolion eraill mewn bychanfyd addysgol.Mae’n amserol iawn fod y seminar hwn yn cael ei gynnal yn uned Llywodraeth y Cynulliad gan eu bod wedi comisiynu Asesiad Opsiynau o ran y dull gorau o ddatblgyu addysg uwch gyfrwng-Gymraeg. Disgwylir penderfyniad yn fuan gan y Gweinidog Addysg, Jane Davidson sydd wedi derbyn gwahoddiad i siarad yn y seminar hwn.”O.N. Efallai – er mwyn osgoi unrhyw gamddeall – y dylid egluro mai Cymdeithas yr Iaith, nifd Llywodraeth y Cynulliad, sy’n trefnu’r seminar hwn er iddo gael ei gynnal yn uned Llywodraeth y Cynulliad. Sylwodd Swyddog Gweinyddol Cymdeithas yr Iaith, Dafydd Morgan Lewis 'fod mwy o le yno nag yn uned y Gymdeithas'