Mae Llywodraeth Cymru 'wedi torri ei haddewidion' ac yn trio 'camarwain y cyhoedd' gyda'i mesur iaith Gymraeg, yn ôl cwyn swyddogol gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i'r Prif Weinidog.Mewn llythyr at Carwyn Jones, bydd yr ymgyrchwyr yn honni fod datganiadau gan y llywodraeth am y mesur iaith ddydd Iau diwethaf yn 'gamarweiniol tu hwnt'. Honna'r gr?p ymgyrchu bod llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd wrth hawlio bod y mesur yn arwain at hawliau i wasanaethau Cymraeg a chadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg.Addawodd Llywodraeth Llafur-Plaid Cymru yn nogfen Cymru'n Un y byddent yn cadarnhau "statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol ...", ond mae'r ffaith nad yw'r mesur yn delifro ar yr addewidion hyn i bobl Cymru wedi cythruddo Cymdeithas yr Iaith.Mae'r mudiad hefyd wedi lansio deiseb ar http://deiseb.cymdeithas.org sydd yn galw ar y llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Yn siarad ar ôl adolygiad Cymdeithas yr Iaith o'r mesur iaith, dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Menna Machreth:"Mae ein haelodau'n gandryll gyda Llywodraeth glymbleidiol oherwydd ei bod hi wedi torri ei haddewidion a thrio camarwain y cyhoedd wrth ddefnyddio rhethreg hawliau. Does dim hawliau, na statws swyddogol i'r Gymraeg yn y mesur. Yn barod rydyn ni'n ymwybodol o'r ffaith fod arbenigwyr ym maes y gyfraith yn anniddig ynglyn â honiad y Llywodraeth fod y mesur yn datgan fod gan y Gymraeg statws swyddogol. Yr unig hawl sydd yn y mesur yw'r hawl i gyrff a chwmniau herio unrhyw ofyniad i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae'n gwbl warthus."
"Twyll yw cynllun y Llywodraeth - maen nhw'n dweud fod y safonau yn golygu hawliau ond, yn gyfreithiol mae hynny yn hollol anghywir..Mae'r datganiadau'r llywodraeth wedi bod yn gamarweiniol tu hwnt. Mae'r mesur hefyd yn sefydlu Comisiynydd a fydd o dan fawd llywodraeth y dydd. Gallai'r gwendidau enfawr hyn yn y mesur, yn ogystal â'r cefnu ar addewidion, olygu bod y sefyllfa yn waeth nawr nac ar ôl Deddf Iaith 1993."Bydd y mudiad yn cyhoeddi dadansoddiad o wendidau'r mesur drafft ynghyd ag argymhellion i wella'r mesur yn fuan. Maen nhw hefyd wedi datgan y byddant yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau a sefydlu eu Comisiynydd Iaith eu hunain.Ychwanegodd Menna Machreth:"Ryn ni wedi ein dadrithio ond dydyn ni ddim wedi colli ein gweledigaeth. Os nad yw'r Llywodraeth Llafur-Plaid yn fodlon delifro, rydyn ni'n gwbl glir y byddwn ni'n parhau i ymgyrchu dros barhad a ffyniant y Gymraeg."