Lobio y Cynulliad er gwaethaf cwynion Aelodau Llafur

logoWAG.jpgYfory (Mercher, Hydref 15), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal diwrnod lobio yn y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn tynnu sylw at y camau hynny y dylai Llywodraeth Cymru eu cymeryd erbyn cyhoeddi ei gyllideb lawn, er mwyn sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn waith amserol iawn, gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r fersiwn draft o'r gyllideb honno heddiw.

Bydd aelodau'r Gymdeithas yn mynd ati i lobio er gwaethaf ymdrechion gan aelodau o'r Blaid Lafur i danseilio'r digwyddiad. Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Bwriad gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith oedd i gynnal y cyfarfod lobio ym mhrif neuadd y Cynulliad. Gwnaed y trefniadau ar gyfer hyn nÙl ym mis Gorffennaf. Eto i gyd, cwta bythefnos cyn y digwyddiad, derbyniodd y mudiad neges o Swyddfa'r Llywydd a oedd yn nodi na fyddai hi'n briodol i gynnal y lobi ym mhrif neuadd y Cynulliad. Yn hytrach, gofynwyd i'r Gymdeithas i symud i ystafell arall naill ochr."Yn dilyn gwneud ychydig o ymholiadau cafwyd gwybod bod y trefniadau wedi cael eu newid yn dilyn cwynion gan rai aelodau o'r Blaid Lafur."Er gwaethaf y rhwystrau hyn, bydd rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn bresennol yn y Cynulliad er mwyn ceisio dal sylw cymaint o aelodau a phosib. Ychwanegodd Huw Lewis:"Yn sgil sefyllfa bresennol y farchnad dai, mae ein cymunedau yn wynebu bygythiadau nas gwelwyd o'r blaen. O ganlyniad, mae'n rhaid i ni gymeryd pob cyfle i gyflwyno ein dadleuon i Lywodraeth Cymru, gan fod brys mawr i weithredu.""Mae yna rai camau penodol y dylid eu cymryd rhwng nawr a chyhoeddi cyllideb derfynnol y Cynulliad ym mis Tachwedd. Dylai'r Llywodraeth sicrhau cynnydd yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu. Yn ogystal dylid darparu digon o arian ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu', Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol i'n cymunedau.""Yn sicr, nid yw'r cwynion gan aelodau o'r Blaid Lafur wedi helpur trefniadau. Serch hynny, mae'n bwysig nad ydym yn gadael i agweddau o'r fath i danseilio ein hymgyrch. O fod yn benderfynol, gobeithio y gallwn bwysleisio difrifoldeb y bygythiadu presennol i'n hiaith a'n cymunedau."Er mwyn mynegi eu anfodlonrwydd gyda'r modd y cafodd y mudiad ei drin, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn ymgasglu tu allan i'r Cynulliad am 11am. Yno byddant yn gofyn i gyflwyno llythr swyddogol o gwyn i Swyddfa'r Llywydd. Bydd Elin Jones AC (sydd wedi helpu gyda threfniadaur diwrnod) a Leanne Wood AC yn ymuno gyda nhw i ddangos cefnogaeth.Yna am 1pm, bydd cyfarfod ffurfiol yn cael ei gynnal yn Ystafel Bwyllgor 5 am 1pm. Ymhlith y rhai fydd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod hwn bydd Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith a Si’n Howys, arweinydd ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith.Yn ogystal, ceir cyfraniad gan Elin Jones AC.