Made in North Wales TV – 3% Cymraeg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cwyno'n ffurfiol i Ofcom am y diffyg Cymraeg a ddarlledir ar y sianel deledu newydd 'Made in North Wales TV'.   

Dim ond 30 munud o raglenni Cymraeg - allan o 99 awr o ddarlledu yr wythnos - fydd ar y sianel newydd sy'n mynd ar yr awyr o'i bencadlys yn Lerpwl ddiwedd y mis.  

Mewn llythyr at y rheoleiddiwr darlledu, meddai Aled Powell, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Nid yw'n dderbyniol bod Ofcom wedi cytuno i drwyddedu'r cwmni er gwaetha'r ffaith mai dim ond 30 munud o'r rhaglenni a gynhyrchir gan y cwmni fydd yn Gymraeg bob wythnos. ...  neu 3% o'r oriau darlleduYn wir, bydd y canran o raglenni gwreiddiol lleol yn isel iawn hefyd... 

"Ymhellach, ymddengys bod holl bresenoldeb y gwasanaeth newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ar-lein, a'i brandio yn uniaith Saesneg; ac mae hynny'n destun pryder mawr i ni. Nid yw'n ymddangos bod y cwmni yn gofyn am staff gyda sgiliau Cymraeg wrth hysbysebu eu swyddi ychwaith.   

"Mae'r ddarpariaeth hon yn sarhaus i'r Gymraeg a'r gymuned leol y dylai'r sianel ei gwasanaethu, gan sefydlu sianel deledu Saesneg arall yn yr ardal ar ben y cannoedd sydd eisoes ar gael... Yn ogystal, credwn ei fod yn annerbyniol y bydd rhaglenni yn cael eu creu yn stiwdios y cwmni yn Lerpwl, yn hytrach nag yn yr ardal leol y mae'r sianel i'w gwasanaethu.  

Ychwanegodd Mr Powell bod angen datganoli darlledu i Gymru er mwyn creu system sy'n llesol i'r iaith: 

"Mae'r problemau hyn yn rhan o batrwm o ymddygiad gan Ofcom, sy'n ffafrio anghenion busnesau mawrion yn hytrach na'r gymuned leol a'r Gymraeg. Nid oes ffydd gennym fod y system yn gwneud unrhyw beth o sylwedd i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae caniatáu cyn lleied o gynnwys Cymraeg a chynnwys a gynhyrchwyd yn lleol ar y gwasanaethau teledu lleol hyn, yn debyg i'r hyn rydym wedi gweld ar radio masnachol lleol dros y degawdau diwethaf. Mae'r sefyllfa yn gwbl annerbyniol.    

Mae problem gyda "Made in North Wales TV" yn amlygu problemau strwythurol ehangach. O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu.  Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd bod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Bydd y problemau democrataidd hyn yn dwysau os yw Ofcom yn caniatáu i deledu lleol ar gyfer Cymru gael ei gynhyrchu yn Lloegr. "