Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu datganiad Jane Hutt heddiw fod y Llywodraeth yn dal i anelu at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn hytrach na bodloni ar ddiwygiadau ar y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio fod angen symud lawer ynghynt ac na ddylid cyfyngu’r trafod i’r sefydliadau addysgol.
Meddai Sioned Haf, swyddog ymgyrchoedd y Gymdeithas:"Rhaid i’r llywodraeth symud lawer yn gynt os am ddal ar y cyfle hanesyddol hwn i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac anrhydeddu’r addewid yn rhaglen 'Cymru’n Un'. Hyd yma, dyw’r llywodraeth ddim hyd yn oed wedi cydnabod yr egwyddorion sylfaenol – fod angen statws annibynnol a siarter i’r coleg, llif arian annibynnol a’i gofrestr ei hunan o fyfyrwyr. Ni bu’r cynnydd angenrheidiol i ddatblygu’r cynllun o fewn y flwyddyn gyntaf."Ychwanegodd Ms Haf:"Nawr mae’r Llywodraeth o’r diwedd yn dechrau son am ddatblygu’r model trwy sefydlu 'Grwp Llywio’r Coleg Ffederal' a chynnal cynhadledd i 'ran-ddeiliaid'. Neges Cymdeithas yr Iaith yw ein bod i gyd yn rhan-ddeiliaid yn y ddelfryd o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac ni ddylid ceisio cyfyngu’r weledigaeth i Sefydliadau Addysg Uwch Cymru sydd yn eu hanfod yn geidwadol."Fel arwydd o hyn, bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu Sesiwn Gyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol (*) yng Nghaerdydd tan y deitl 'Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!'. Am y prynhawn, byddwn yn gweithredu fel Grwp Llywio ac yn gwahodd pawb i ddod i gyfrannu eu syniadau am Goleg Ffederal Cymraeg. Caiff y cyfan ei gofnodi a’i drosglwyddo i’r Gynhadledd.“Fel hyn, byddwn yn agor drysau’r Gynhadledd i bobl Cymru”, meddai Sioned Haf.(*) 3pm, Dydd Mercher, 6ed o AwstCyfarfod Cyhoeddus: Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!Pabell y Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, CaerdyddHywel Griffiths, Menna Machreth, Einir Young, Ieuan Wyn