Neges y Gymdeithas i Arweinwyr Cyngor
Am y tro cyntaf ers sefydlu'r Cyngor ym 1996, bu cyfarfod heddiw rhwng arweinwyr Cyngor Sir Caerfyrddin a Chymdeithas yr Iaith. Cynhaliwyd y cyfarfod yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd mai yn Sir Gâr y bu'r cwymp gwaethaf yng Nghymru o ran siaradwyr Cymraeg.
Yn y cyfarfod, cyflwynodd y Gymdeithas set o argymhellion pellgyrhaeddol yn "Siarter Sir Gar" i arweinydd y Cyngor Kevin Madge, y Dirprwy Prif Weithredwr Chris Burns ac i'r Cyng Mair Stephens sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith. Mae'r Siarter yn galw ar y Cyngor Sir i osod esiampl trwy symud tuag at gyflawni ei waith ei hun trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy bwyso ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau nad ydynt yn rhagfarnu yn erbyn yr iaith.
Ychwanegodd Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn y sir:
"Ein pwyslais oedd bod yr iaith yn perthyn i bawb yn y sir. Mae ein Siarter yn mynnu felly nad oes neb yn cael eu hamddifadu o'r gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg a bod datblygu'r hawl i bawb allu byw pob rhan o'u bywyd drwy'r Gymraeg. Mae'r Siarter hefyd yn galw am newidiadau polisi radicalaidd er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg y sir gan gynnwys cynnal gwasanaethau lleol, adolygu ei Chynllun Datblygu Lleol yn wyneb dirywiad y Gymraeg a darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy i bobl leol."
Fel mam i bedwar o blant sy'n byw yn un o gymunedau Cymraeg y sir, dywedodd Ms Elin
"Mae'r amser wedi dod ble mae'n rhaid i'r Cyngor weithredu polisïau i sicrhau fod teuluoedd yn gallu byw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg."
- Datganiad blaenorol - Lansio Siarter Sir Gâr
- Lawrlwytho Siarter Sir Gâr (PDF)
- Lawrlwytho Siarter Sir Gâr (Saesneg) (PDF)
Y stori yn y wasg -
South Wales Guardian 20fed o Fehefin - Council in Welsh Charter Talks
Carmarthen Journal 3ydd o Orffennaf 2013 - Language Campaign Group calls for action