Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008

Taith TafodY lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .

cymdeithas-a6-gwe.jpgFull details of Cymdeithas yr Iaith's Gigs during the National Eisteddfod Week, available here in English...Bydd modd prynu tocynnau o Glwb Ifor Bach yn yr wythnosau nesaf ac o uned y Gymdeithas yn ystod yr wythnos Eisteddfod.Mae Noson Brwydr y bandiau ar y Nos Sul yn 14+, ond bydd pob noson arall yn 18+.Nos Sadwrn 2 AwstLlawr Uchaf:Derwyddon Dr GonzoJen JeniroRandom Elbow PainMeibion FfredDJ Huw StephensLlawr Canol:DJ FuzzyFelt£7Llawr Gwaelod:Nid Disco Teithiol Mici Plwm a Hywel Gwynfryn(DJ Ian Cottrell a DJ Shon Llanast)£3Nos Sul 3 AwstLlawr Gwaelod:Noson 14 oed +Brwydr y BandiauStilletoesByd Dydd SulDJs Rhys Peski a Gerallt Ruggiero£4Nos Lun 4 AwstLlawr Uchaf:Elin FflurRyan Kift (yn lawnsio ei albym Amsterdam)Lowri EvansDJ Owain BobsCompere Lisa Gwilym£8Llawr Gwaelod:Cwis Tafarn Huw EvansGareth BonelloShe's Got Spies£4Nos Fawrth 5 AwstLlawr Uchaf:Gai TomsGwibdaith Hen FranCowbois Rhos BotwnnogDJ Hefin Jôs£8Llawr Gwaelod:Noson Recordiau Safon UchelSeindorffGeraint FfranconWiliam CnichtPlyciPSILembo£5Nos Fercher 6 AwstLlawr Uchaf:Parti maes-e.comY ReiPlant DuwPwsi Meri MewYr OdsDJ Ian Cottrell£7Llawr Gwaelod:Noson DockradMattoidzHowl GriffCalanshoBandits Ifor BachDJ Dai Skep£5Nos Iau 7 AwstLlawr Uchaf:Genod DroogMC Saizmundo a'r BandDybl-LRufus MufasaDJ Steffan CravosLlawr Canol:DJs Llwybr Llaethog£7Llawr Gwaelod:Geraint Lovgreen A'r Enw DaDaniel Lloyd a Mr PincEndaf PresleyMics Têp byw Mair a Sioned£7Nos Wener 8 AwstLlawr Uchaf:Hanner PeiSwci BoscawenMr HuwDan AmorDJ Gareth PotterLlawr Canol:DJs Matta a Barbarella£8Llawr Gwaelod:Bob Delyn a'r EbillionHeather JonesBrigynDJ Ceri Gravy£8Nos Sadwrn 9 AwstLlawr Uchaf:SibrydionCate Le BonEitha' Tal FfrancoEnillwyr BYBDJ Esyllt CiwdodCompere: Hywel GriffithsLlawr Canol:DJ Lyns£7Llawr Gwaelod:Meic StevensLleuwenFflur Dafydd a'r BarfGwyneth GlynDJ Huw Evans£9

;0;Adloniant,Eisteddfodau,Morgannwg Gwent
Lansio Cyfrol gan Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg, CAERDYDD;2008-08-04 18:55:42;2008/08/04/lansio_cyfrol_gan_gwion_lewis_hawl_ir_gymraeg_caerdydd;

\HawlAm 1 o'r gloch heddiw (Dydd Llun Awst 4) bydd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth, yn un o nifer ddaw i lansiad llyfr ar statws gyfreithiol iaith Gymraeg ym Mhabell y Gymdeithas (unedau 906 -908). Mae'r llyfr 'Hawl i'r Gymraeg' gan Gwion Lewis, sy'n un o ysgolheigion disgleiriaf ei genhedlaeth, yn edrych ar hawliau ieithyddol y Cymry Cymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ei lyfr mae Gwion Lewis yn dadlau na fydd unrhyw ddeddfwriaeth yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod ein hawl ddiymwad i siarad a defnyddio'r Gymraeg. Ei obaith yw y bydd y llyfr nerthu ac yn cryfnau yr alwad am Fesur iaith newydd.Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fydd yn siarad yn y cyfarfod gyda gyda Cynog Dafis: "Dyma lyfr anhepgor y bydd yn rhaid i'r Gweinidog Treftadaeth ei ddarllen ar ei union a hithau yn amser tyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith newydd."

hawl-ir-gymraeg-gwion-lewis.jpg1pm, Dydd Llun, 4ydd o AwstLansio Cyfrol gan Gwion Lewis - Hawl i'r GymraegUned Cymdeithas yr IaithEisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008Hywel Griffiths, Cynog Dafis.Dyma gyfrol arloesol yn ymwneud â statws a hawliau siaradwyr Cymraeg - y gyfrol gyntaf erioed i osod y Gymraeg yng nghyd-destun cyfraith rhyngwladol a chyfraith Ewrop. Cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl dros ddeddfwriaeth Gymraeg.Teitl: Hawl i'r GymraegAwdur: Gwion LewisISBN: 9781847710659 (1847710654)Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2008Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bontFformat: Clawr Meddal, 180 tudalenAr gael: O'ch Siop Gymraeg lleolY Llyfr:Treuliodd Gwion Lewis haf 2004 ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal, yn astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Bydd ffrwyth ei ymchwil, y gyfrol Hawl i'r Gymraeg, yn gosod y Gymraeg yn ei chyd-destun cyfreithiol, ac yn pwyso a mesur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o safbwynt cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ôl Gwion, ni fydd y ddeddfwriaeth Brydeinig yn agos at fod yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod fod gennym fel dinasyddion hawl ddynol i siarad ein hiaith gyntaf. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed ers dyfodiad Deddf Hawliau Dynol 1998, a dywed Gwion fod gan y llysoedd fframwaith syniadol gadarn bellach ar gyfer ymdrin â hawliau iaith. Hyd yn hyn, nid yw'r mudiad iaith yng Nghymru wedi llawn sylweddoli potensial y teclynnau cyfreithiol hyn. Gobaith Gwion yw y bydd Hawl i'r Gymraeg yn llenwi'r bwlch, ac yn cynnig dadleuon mwy sylweddol i'r mudiad wrth i'r galw am 'ddeddf iaith newydd' gynyddu."Mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn ddigwyddiad o bwys... cyfrol feistrolgar sy'n cyflwyno'r ddadl fod angen i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer y Gymraeg gael ei seilio ar hawl siaradwyr yr iaith i'w defnyddio gydag urddas." Darllenydd Cyngor Llyfrau Cymru.Gwion Lewis:Ganwyd 1979 ym Mangor, Gwynedd. Magwyd yn Llangefni, Ynys Môn lle mynychodd Ysgol Gynradd Corn Hir (1984-1991) ac Ysgol Gyfun Llangefni (1991-1998). Aeth yn ei flaen i Goleg Iesu, Rhydychen, lle enillodd raddau BA a BCL (Dosbarth Cyntaf) mewn Cyfreitheg (1998-2002). Tra'n astudio ar gyfer y BCL, canolbwyntiodd ar y gyfraith gyhoeddus yn Lloegr a Ffrainc, hawliau dynol a'r gyfraith ryngwladol. Dyfarnwyd Gwobr Welson iddo am ddangos yr addewid mwyaf ymhlith y rhai a astudiai'r gyfraith yng Ngholeg Iesu ar y pryd, ac fe'i gwnaed yn un o Ysgolorion y Coleg.Mae ganddo hefyd radd LLM o Brifysgol Efrog Newydd (2003-04), lle canolbwyntiodd ar hawliau dynol rhyngwladol, hawliau iaith, a'r berthynas rhwng y gyfraith a diogelwch fel Ysgolor Fulbright ar ran llywodraethau Prydain ac America. Yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, sefydlodd fudiad o'r enw Legal Access Network for South Asians sy'n ceisio dod â gwasanaethau cyfreithiol o fewn cyrraedd pobl sy'n hanu o Dde Asia.Yn ystod haf 2004, yr oedd yn Ysgolor Gwadd yn Sefydliad y Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal, yn ymchwilio i hawliau iaith yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Noddwyd ef yn ystod y cyfnod hwn gan Ymddiriedolaeth Saunders Lewis. Ffrwyth y cyfnod hwn o ymchwil yw'r gyfrol, Hawl i'r Gymraeg.Bellach, mae Gwion yn aelod o siambrau Landmark yn Llundain lle mae'n fargyfreithiwr yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus, hawliau dynol a chyfraith amgylchedd. Mae'n sylwebu'n gyson ar faterion cyfreithiol a rhyngwladol ar raglenni teledu a radio ar gyfer BBC Cymru a S4C, ac ers 2006 yn un o gyfarwyddwyr yr elusen Ymyrraeth er Cyfiawnder Cymunedol Cymru.