Meddiannu Ysgol Mynyddcerrig

Meddianu Ysgol MynyddcerrigMae arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cymryd y cam eithriadol o feddiannu adeilad ysgol Mynyddcerrig a gaewyd ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn oriau man y bore heddiw torrodd yr aelodau i mewn i adeilad neuadd/ffreutur yr ysgol lle cynhaliwyd yr ymgynghori a newidiwyd y clo.

Ymhlith y 5 aelod sydd wedi meddiannu'r ysgol mae Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas Hywel Griffiths, Is-gadeirydd y Sir Iestyn ap Rhobert, Arweinydd Grwp Addysg y Gymdeithas Ffred Ffransis, Swyddog Maes Dyfed y Gymdeithas Angharad Clwyd a Myfyriwr o'r Sir Siriol Teifi. Wrth gyhoeddi'r weithred dywed Ffred Ffransis:"Rydyn ni heddiw wedi gweithredu'r ddedfryd a osodwyd ar Gyngor Sir Gâr mewn prawf yn Eisteddfod yr Urdd eleni, pryd e'i cafwyd yn euog o dwyllo yn y broses o ymgynghori am ddyfodol ysgolion. Mae'n amlwg fod y Cyngor wedi penderfynu o flaen llaw ei fod am gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg a'u gwerthu i godi arian ar gyfer y Cyngor. Y ddedfryd oedd y dylen ni ymyrryd i'w gwneud yn anos i'r Cyngor werthu'r adeilad ac felly ymelwa ar y twyll""Heddiw rydym wedi meddiannu'r adeilad a newid y clo a byddwn yn cadw'r allwedd newydd yn symbolaidd ar gyfer y gymuned leol.""Rydyn ni hefyd yn rhyddhau heddiw ein dogfen bolisi newydd 'Ysgolion Pentre-yr achos dros Resymoli Cadarnhaol'. Yn y ddogfen hon rydym yn gofyn i Lywodraeth y Cynulliad i ymyrryd i sicrhau bod ysgolion pentref yn mynd yn eiddo i Adran Materion Gwledig y Cynulliad gyda'r Awdurdod Addysg Lleol yn llogi'r rhan honno o'r adeilad sydd ei hangen ar gyfer cynnal ysgol.""Cyfrifoldeb y Cynulliad yn Genedlaethol ac Adran Adfywio Cymunedol y Cyngor yn lleol fydd cynnal yr adeilad a gwneud defnydd cymunedol priodol i'r gweddill ohoni. Fel hyn dychwelir y ddadl am ddyfodol ein hysgolion pentref i dir addysg yn hytrach na'n drafodaeth am adeiladau. Bydd yr adeiladau yn agored hefyd wedyn i ddenu grantiau Ewropeaidd ar gyfer datblygu cymunedol."mynyddcerrig1.jpgmynyddcerrig2.jpg