Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb wrth i'r Mesur Iaith ddod yn gyfraith heddiw.Yn ystod y broses ddeddfu, cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelod Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith, ond heb gynnwys hawliau i'r Gymraeg.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Trwy'r Mesur hwn, rydym wedi ennill statws swyddogol i'r Gymraeg ac mae hynny i'w groesawu. Serch hynny mae egwyddor graidd ar goll yn y mesur a basiwyd gan y Cynulliad cyn y Nadolig. Nid yw'n rhoi hawliau iaith i bobl Cymru ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd."Er hyn, cefnogwyd gwelliant i'r perwyl hwnnw gan 18 Aelod Cynulliad o dair plaid wahanol, ac roedd hynny'n gam hynod arwyddocaol."Ni fydd egwyddor yn gyrru'r dyletswyddau ar rai cyrff i ddarparu gwasanaeth Cymraeg. Ni fydd sicrhau statws swyddogol ar ei ben ei hun yn grymuso pobl yn eu cymunedau, a bydd diffygion y Mesur yn si?r o ddangos hynny yn y dyfodol. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf - deddfwriaeth a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru.