
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Lloyds Bank wedi gwrthod derbyn llythyr Cymraeg gan yr Aelod Cynulliad Mike Hedges.
Dywedodd David Williams, is-gadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r digwyddiad yn dystiolaeth bellach o'r angen i estyn hawliau iaith i weddill y sector breifat, gan gynnwys y banciau. Mae ymddygiad y banc yn gwbl annerbyniol. Mae'n eironig bod Aelod Cynulliad Llafur yn dioddef o bolisi ei Lywodraeth ei hun. Cwta wythnos yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog Llafur Alun Davies bapur gwyn yn datgan nad oedd e'n bwriadu estyn y ddeddfwriaeth iaith i fanciau. Unwaith eto, mae gyda ni Lywodraeth Llafur yn amddiffyn y bancwyr yn lle pobl Cymru."