Mil yn galw am Gofnod Cymraeg

cofnod-bach.jpg

Mae dros fil o bobl wedi llofnodi deiseb o blaid Cofnod llawn ddwyieithog o'r trafodaethau yn y Cynulliad ers iddi gael ei lansio wythnos ddiwethaf.

Mae'r gefnogaeth gref i'r ymgyrch yn dilyn adroddiad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (PDF) yn datgan bod y Cynulliad yn torri ei gynllun iaith drwy beidio darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad.

Meddai Catrin Dafydd, llefarydd grwp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydym yn hynod o falch bod cymaint o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb mewn cyfnod mor fyr. Mae'n braf gweld pobl o bob cwr o'r wlad yn cefnogi'r ymgyrch ac mae'n arwydd clir o ddyhead pobl Cymru i weld ein gwleidyddion yn gwyrdroi'r penderfyniad. Ein gobaith nawr yw y bydd y gwleidyddion yn gwrando ar y bobl sy'n galw am weld y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal yn ein corff democrataidd. Mae'n rhyfedd meddwl fod gwleidyddion sydd wedi sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg yn fodlon derbyn nad oes ganddi'r un statws yn eu siambr eu hunain. Eisoes rydym wedi anfon gohebiaeth at y Comisiwn yn holi sut y mae modd cysoni'r ddau beth.

"Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae cynnwys adroddiad Bwrdd yr Iaith yn hynod arwyddocaol. Ydy'r gwleidyddion yn mynd i barhau i anwybyddu ei gynllun iaith? Ydyn nhw'n fodlon gweithredu'n anghyfreithlon yn erbyn buddiannau'r iaith Gymraeg? Mae rhaid iddynt ail-ddechrau darparu Cofnod llawn dwyieithog. Dyna oedd y sefyllfa yn ystod un mlynedd ar ddeg cyntaf y sefydliad, felly nid yw'n gofyn llawer iddyn nhw ddychwelyd i'r arfer hwnnw."

"Mae'n ymddangos bod y Cynulliad yn bwriadu creu Bil neu Ddeddf Iaith ar gyfer gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad ei hunan, yn hytrach na dod o dan y Mesur Iaith newydd. Bydd llawer o gwestiynau gennym am y broses yma, ond mae'n gwbl amlwg bellach y byddai'n foesol amhosibl i'r Cynulliad greu Bil o'r fath heb fod creu Cofnod cwbl ddwyieithog yn rhan ohono."