Miliwn o siaradwyr o fewn cyrraedd - Her i'r pleidiau

 

Mae gobaith creu miliwn o siaradwyr Cymraeg gyda Llywodraeth newydd sy'n weithredol, dyna oedd neges Cymdeithas yr Iaith mewn dadl etholiadol yn Aberystwyth dros y penwythnos. 

Cynhaliodd y mudiad iaith gyfarfod hysting cyntaf etholiadau'r Cynulliad am y Gymraeg yn Neuadd Pantycelyn yn AberystwythYmysg cynrychiolwyr y pleidiau a oedd yn annerch yr hystings mae Nia Griffiths AS ar ran y Blaid Lafur, Suzy Davies AC o'r Blaid Geidwadol, Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones o Blaid Cymru ac Aled Roberts AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol.    

Mae gwleidyddion o bob plaid eisoes wedi cefnogi tri phrif nod dogfen weledigaeth y mudiad ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf - 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' - sef creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. Mae dogfen y mudiad iaith hefyd yn cynnwys degau o argymhellion i'r pleidiau gwleidyddol gan gynnwys: cyflwyno 'Bil Addysg Gymraeg i Bawb' er mwyn sefydlu un continwwm o ddysgu Cymraeg, a pheth addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn; agor rhagor o neuaddau preswyl Cymraeg i fyfyrwyr; a sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg. 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Jamie Bevan:  

"Rwy'n grediniol bod cael miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn cyrraedd. Ond mae angen Llywodraeth sy'n gweithredu, a hynny gyda phwrpas ac ar frys. Yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad, sefydlodd y Llywodraeth nifer o weithgorau a gyhoeddodd argymhellion clodwiw. Mae rhai o argymhellion hynny yn dal eistedd ar silffoedd y gweision sifil, ac yn prysur hel llwch. Mae cael Llywodraeth newydd yn gyfle i weithredu ar frys a chyflawni argymhellion adroddiadau ar yr economi ac addysg.   

"Mae cyfle hefyd i gamu ymlaen i sicrhau bod addysg Gymraeg i bob plentyn a chartrefi fforddiadwy i bawb er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Mae angen i ni fel pobl a'n gwleidyddion godi ein gorwelion. Os ydy ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr o ran deddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen. Gobeithiwn yn fawr y bydd y cynigion yn ein dogfen am greu Miliwn o Siaradwyr yn sbarduno trafodaeth gyhoeddus fywiog ynghyd â dangos pwysigrwydd etholiad 2016 fel un o bwys hanesyddol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru yn gyffredinol." 

"Mae'r etholiad nesaf felly yn mynd i fod yn un tyngedfennol i'r iaith: mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod.  Mae'r ymgyrch dros sicrhau bod Neuadd Pantycelyn yn ail-agor erbyn 2019 eisoes wedi canolbwyntio meddwl nifer o bobl ar sut mae gwleidyddion yn bwriadu cryfhau'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd."