Mae Cyngor Ynys Môn yn parhau i geisio rhagdybio o blaid cau ysgolion pentre - mae Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor wedi cymeradwyo Adroddiad Ymgynghori ar y "Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg".
Er bod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor ac er gwaetha ymatebion yn pwysleisio'r angen i ystyried camau heblaw cau ysgolion gwledig, prin bod yr adroddiad yn cynnig unrhyw newidiadau i'r Strategaeth, sy'n dyfodol bygwth ysgolion.
Ar ran y Gymdeithas, dywed Ffred Ffransis:
"Fel i ni ddweud yn ystod yr ymgynghoriad, mae'r strategaeth yn ddogfen ddiddychymyg a digalon, y prif nod yw trio gwthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg, gan honni mai ceisio lleihau ôl-troed carbon yw'r nod oherwydd adeiladau diffygiol y mae'r Cyngor ei hun yn euog o beidio â buddsoddi ynddynt, a thrwy honni eu bod yn ymateb i agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, sydd ei hun wedi rhoi llawer o'r ysgolion ar Restr Ysgolion Gwledig er mwyn eu gwarchod, trwy fod rhagdyb o blaid eu cadw ar agor.
"Yn anhygoel, honna'r Cyngor eu bod yn gweithredu i ddatblygu'r Gymraeg trwy danseilio cymunedau gwledig Cymraeg wrth gau'r ysgolion. Mae'r Cyngor yn tristau fod demograffeg y cymunedau'n newid trwy fod llai o bobl ifainc ond eto am gau ysgolion, sy'n ei gwneud yn llai tebyg byth y bydd teuluoedd ifainc yn ymgartrefu yn y cymunedau hyn heb ysgol i'w plant.
Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini ychwnaegodd Ffred Ffransis:
"Does dim newidiadau gwirioneddol i'r strategaeth yn dilyn yr ymgynghoriad a bydd y strategaeth gerbron Pwyllgor Gwaith Ynys Môn union fis wedi cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol heddiw. Galwn felly ar y Pwyllgor Sgriwtini i ail-ystyried yr adroddiad cyn iddo fynd at y Pwyllgor Gwaith, fel bod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig."