Morrisons i ystyried troi at y Gymraeg

Archfarchnad MorrisonsMae cwmni Morrisons wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o weithredu cynllun saith pwynt er mwyn gwneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn eu siopau ar ôl cyfarfod â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Bradford heddiw.

Pwysodd y ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith ar i'r cwmni achub y blaen ar unrhyw Ddeddf Iaith sy'n debyg o gael ei phasio yn y dyfodol drwy wneud ymrwymiad llawn i Gymru a'r iaith Gymraeg yn awr. Y saith pwynt a drafodwyd oedd:1. Y dylai holl arwyddion parhaol Morrisons fod yn ddwyieithog gan gynnwys yr 'arwyddion stryd' unigryw sy'n perthyn i'r cwmni.Dywedodd Dewi Snelson, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng ngogledd Cymru,"Tra ein bod wedi pwysleisio fod cael yr arwyddion parhaol yn ddwyieithog yn bwysig yr ydym hefyd wedi mynnu fod yr agenda cydraddoldeb a gwneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn cael ei weithredu drwy'r siopau yn yr un modd ar Saesneg. Ni fyddwn yn hapus gyda defnyddio'r Gymraeg er mwyn sioe."Felly fe gyflwynodd y Gymdeithas 6 phwynt arall er mwyn gwneud yn siwr y bydd defnydd llawn o'r Gymraeg yn y siopau.2. Dylai holl lenyddiaeth hyrwyddo wythnosol y cwmni, ynghyd a'r prisio, posteri a thaflenni eraill fod yn ddwyieithog.3. Dylai Morrisons ymgynghori gyda'r colegau lleol er mwyn sicrhau fod cyrsiau ar gael i hyfforddi'r staff ar sut i gynnig gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid4. Dylai labeli y nwyddau hynny a baratoir gan Morrisons fod yn ddwyieithog.5. Dylai'r negesuon cyhoeddus mewnol a draddodir dros yr uchel-seinydd fod yn ddwyieithog6. Dylai'r adrannau hynny o wefan y cwmni sy'n berthnasol i Gymru fod yn ddwyieithog7. Dylid gwneud defnydd llawn o gynyrch lleol Cymreig yn eu sioau.Ymatebodd Mr Blundell Swyddog Corfforaethol y cwmni drwy ddweud fod Morrisons eisoes eisoes yn gweithio ar y pwynt cyntaf a'r pwynt olaf sef arwyddion parhaol a chynyrch lleol.Addawodd ddod yn ôl at y Gymdeithas ar y pum pwynt arall a oedd yn mynnu tipyn mwy o ymrwymiad i'r iaith Gymraeg gan ein bod mewn gwirionedd yn gofyn am gydraddoldeb gyda'r Saesneg.Dywedodd Dewi Snelson ymhellach:"Yr ydym yn falch fod corfforaeth adwerthol enfawr fel Morrisons wedi cytuno i roi sylw manwl i gynllun mor radical drwy ymrwymo eu hunain i roi lle i'r Gymraeg ar yr agenda cydraddoldeb.