Mwyafrif o gynghorau yn torri'r gyfraith drwy wrthod gwersi nofio Cymraeg

Mae dros hanner cynghorau sir yn torri'r gyfraith drwy wrthod cynnig gwersi nofio yn Gymraeg, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a gafodd ei ryddhau heddiw (dydd Llun, 6ed Mehefin). 

O dan hawliau newydd i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, mae dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i gynnig cyrsiau addysg sy’n agored i’r cyhoedd, gan gynnwys gwersi nofio, yn Gymraeg. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae dros hanner y cynghorau sir yn torri'r ddyletswydd gyfreithiol honno 

Yn ôl yr ymchwil, ymysg y siroedd a chanolfannau hamdden sy'n gwrthod cynnig gwersi nofio Cymraeg mae: Canolfan Hamdden Penyrheol, Abertawe; Cyngor Blaenau Gwent; Canolfan Hamdden Y Barri; Newport Live, Casnewydd; canolfannau hamdden Rhuthun a Dinbych; Canolfan Hamdden Hwlffordd, Sir Benfro; canolfannau hamdden Llantrisant, Sobell yn Aberdâr, a Bronwydd yn y Porth; canolfannau hamdden yn Abergele a Llandudno; Cyngor Torfaen a'r Byd Dŵr, Wrecsam. 

Dywedodd Cyngor Sir Gwynedd wrth y mudiad, 'Mae gwersi ni i gyd yn ei cynnal [sic] yn Gymraeg.' Fodd bynnag, ymddengys mai rhai ohonynt yn unig sy'n cael eu cynnal yn Gymraeg. Dywedodd derbynnydd yng Nghanolfan Hamdden Tywyn yng Ngwynedd wrth Gymdeithas yr Iaith: "[we] can't guarantee Welsh lessons, if you want Welsh ones, try Bala. They'd have to close us down if they wanted to do that because Welsh isn't our first language".  

Gwrthododd pennaeth canolfannau hamdden Rhuthun a Dinbych ddarparu gwersi nofio Cymraeg gan honni hefyd nad oedd dyletswydd i gynnig gwersi nofio yn Gymraeg Dywedodd 'Caerdydd Actif' fod rhaid cysylltu â'r fenter iaith leol er mwyn cael gwersi nofio Cymraeg, gan anwybyddu'r ddyletswydd ar y cyngor a'r canolfannau hamdden unigol i gynnig eu holl wersi yn Gymraeg.  Mae’r mudiad iaith hefyd yn honni bod Cyngor Sir Fynwy yn gweithredu'n groes i'r gyfraith drwy orfodi pobl i lenwi ffurflen cyn asesu'r galw am gyrsiau yn Gymraeg. 

Mewn cwyn swyddogol at Gomisiynydd y Gymraeg, meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith: 

"Diben yr hawliau newydd yw hybu defnydd y Gymraeg; prin bod enghraifft mwy diriaethol na gwersi nofio Cymraeg, yn enwedig y rhai ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n hawl newydd y dylem allu ei ddathlu. Yn anffodus, rydym yn gorfod cyflwyno cwyn ffurfiol ar ran yr holl bobl sydd wedi cael eu hatal rhag defnyddio'r hawliau newydd hyn. Mae'n glir bod nifer o gynghorau yn torri'r dyletswyddau hyn sydd i fod i ehangu defnydd y Gymraeg ym maes chwaraeon.  

"Gofynnwn i chi gynnal ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa yn gyffredinol, gan atgoffa pob cyngor sir o'r angen iddynt gynnig gwersi nofio yn Gymraeg, a hynny'n rhagweithiol. Mae'n glir bod amrywiaeth fawr o ran sut mae cynghorau yn dehongli'r gyfraith newydd, ac yn y rhan fwyaf o achosion maent yn eu dehongli mewn ffordd sy'n ceisio osgoi gwella eu darpariaeth a chan rhoi baich ar yr unigolyn i ofyn am wasanaeth Cymraeg. 

"Nodwn ymhellach bod dyletswydd hefyd ar gynghorau i sicrhau fod pobl yn ymwybodol o'u hawliau newydd. Mae'n amlwg o'r ymatebion rydym wedi eu derbyn, bod nifer o gynghorau, yn hytrach na chodi ymwybyddiaeth o'r hawliau, yn gwadu eu bod yn bodoli. " 

Mae dau gyngor, Castell Nedd Port Talbot a Merthyr Tudful, wedi herio'r ddyletswydd i ddarparu gwersi nofio a chyrsiau eraill yn Gymraeg. Mae'r heriau yn cael eu hystyried gan Gomisiynydd y Gymraeg ar hyn o bryd.

[Mynnwch, a dysgwch am, eich hawliau drwy glicio yma]

[Cliciwch yma am fwy o fanylion o'r ymchwil]

Yn y wasg:

Golwg360

Wales Online

Daily Post