Mi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000 y flwyddyn a fyddai’n yn mynd tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg.
Meddai Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Rydym am gyflwyno tystiolaeth bydd yn ail-ategu bod y llywodraeth wedi mynd yn groes i'w hymrwymiad i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Gwnaed addewid clir a diamwys yn nogfen Cymru’n Un i sefydlu papur dyddiol cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn wedi ychwanegu’n sylweddol at hunaniaeth a hunan-hyder Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, ac wedi sbarduno niferoedd mawr o bol i ddysgu’r iaith.""Mae’r pecyn a gyhoeddwyd yn becyn sydd wedi ei anelu at y bobl ffodus hynny sydd yn medru edrych ar y we yn y gwaith neu adref, ac yn gwrthod gwasanaeth newyddion i’w ddarllen i’r rheiny nad ydynt yn medru cael mynediad at y we am amrywiol resymau. Mae ond angen edrych i'r cyfandir i sylweddolibod Cymru bell tu hol hi."Mewn pythefnos wedi cyhoeddiad y cyn-weinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas mai ond £200,000 y flwyddyn bydd y wasg Gymraeg yn ei chael, derbyniwyd dros mil o enwau i'r ddeiseb. Yn ôl Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:"Roedd cyhoeddi'r fath swm yn ergyd farwol i’r uchelgais o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Roedd hi'n gyhoeddiad a wnaeth adlewyrchu diffyg ymrwymiad y llywodraeth i gymryd y Gymraeg o ddifri. Bu'r syniad o bapur newydd dyddiol Cymraeg yn destun cynnwrf ac yn gam a oedd yn dangos gweledigaeth i normaleiddio'r Gymraeg. Ond ymddengys unwaith yn rhagor, bod yr hyder i fod yn ddiwylliannol gyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu chwalu gan Llywodraeth y Cynulliad. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Pwyllgor Deisebau yn mynd a’r maen i’r wal o hyn allan."