Daeth tri chant o brotestwyr ynghyd yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn er mwyn protestio yn erbyn cynlluniau i adeiladu wyth mil o dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Galwodd y brotest, a gafodd ei harwain gan bwyllgor lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, am foratoriwm ar y cynllun datblygu lleol nes fydd gwaith ymchwil wedi ei gwblhau i fesur anghenion tai a gwasanaethau ym mhob cymuned yn y sir. Mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn ymgynghori ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd.
Yn siarad yn y rali, meddai’r awdures Angharad Tomos a annerchodd y dorf yn y dref: “Nid syniad o'r tu allan yn cael ei wthio arnom mo hwn, megis Land and Lakes, ond cynllun yn cael ei roi gan ein cyngor ni ein hunain – Cyngor Gwynedd”
“Rydw i wedi blino deud NA wrth bopeth. Rydw i eisiau dweud “Ie” am unwaith… IE i ddatblygu lleol felly, ar yr amod ein bod yn datblygu sir ar ein telerau ni, ac er budd cymunedau Gwynedd. Os ydi John Wyn Williams [deilydd portffolio cynllunio Cyngor Gwynedd] yn ddyn sy'n lecio cymryd risg, boed iddo gymryd risg ag ystyr iddo. Cymrwch y risg, meiddiwch ddweud wrth Caerdydd, “Rydyn ni'n gwrthod y cynllun hwn, mae gennym gynllun ein hunain – cynllun er budd cymunedau Gwynedd.”
“Neges syml sydd gennym. Dywedwch NA wrth y Cynllun Datblygu Estron ac IE i Gynllun Datblygu Gwirioneddol Leol.”
Lansiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei Mesur Cynllunio ei hun yn y Senedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar er mwyn newid y drefn gynllunio yn ei chyfanrwydd. Mae’r Mesur, a ddrafftiwyd gan y grŵp pwyso, yn amlinellu pecyn o newidiadau er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg yn ogystal ag ehangu ei defnydd ym mhob rhan o Gymru.
Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gafodd ei fagu ym Mynydd Llandygái: “Byddai 8,000 o dai yn yr ardal yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg. Mae gan y cynghorau hyn y cyfle i arwain y ffordd ar gyfer siroedd eraill, a herio ystadegau’r Llywodraeth hyd eithaf eu gallu. Dylent ymchwilio’n fanwl ac yn gynhwysfawr i’r anghenion lleol, cyn clustnodi’r un fodfedd o dir ar gyfer datblygwyr. Rydym yn falch bod cynifer o gynghorwyr, awduron, ymgyrchwyr ac eraill wedi datgan eu cefnogaeth i’n hymgyrch yn barod.”
“Mewn cyfarfod diweddar, cyfaddefodd swyddogion Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn canolbwyntio’n ormodol ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol. Mae ein cynigion deddfwriaethol ni yn dangos sut ellid gweddnewid y drefn gynllunio. Rydym yn cynnig gweledigaeth o’r math o system a fyddai’n gweithio o blaid ein cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Rydym yn ffyddiog bod cynnwys ein dogfen yn fwy cydnaws o lawer gydag anghenion cymunedau nag yw un y Llywodraeth.”
Ymysg y cynigion ym Mesur Cynllunio Cymdeithas yr Iaith, mae’r mudiad yn awgrymu: gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith iaith; gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer rhai datblygiadau; a sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai diwallu anghenion lleol, yn lle cyrraedd targedau tai cenedlaethol wedi ei seilio ar batrymau hanesyddol.