Newidiadau i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin yn niweidiol i'r Gymraeg

Wrth i aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin lunio ymateb i newidiadau i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
 
“Mae pryder gyda ni na fydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), dan y newidiadau, yn dweud fod yn rhaid i bob datblygiad ystyried y Gymraeg ond yn hytrach bod datblygiadau o 10 tŷ neu fwy yn digwydd yn raddol mewn ardaloedd ble mae 60% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Dim ond pump o gymunedau'r sir bydd hyn yn berthnasol iddo felly.
Hefyd fydd stadau newydd ddim yn cael eu codi'n raddol fel mesurau lliniaru er mwyn lleddfu effaith datblygiadau mawr mewn ardaloedd ieithyddol sensitif a dim sicrwydd bydd enwau dwyieithog i'r stadau. Rydyn ni wedi dweud o ddechrau'r ymgynghoriad fod y mesurau hyn yn wan ac yn annigonol, ond hebddyn nhw mae'r iaith Gymraeg yn y rhan fwyaf o gymunedau Sir Gâr yn wynebu dyfodol mwy ansicr fyth. Mae'r Gymraeg yn briod iaith i bob rhan o Sir Gar, ac felly ni ddylid eithrio unrhyw ran o'r sir o'r mesurau sydd eu hangen er mwyn i ni i gyd gael byw yn Gymraeg.
Sut gall y Cyngor ar y naill law dderbyn adroddiad ac argymhellion Gweithgor y Gymraeg a chreu strategaeth i fynd i'r afael â'r cwymp yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg tra ar y llaw arall ganiatáu adeiladu tai ar draws y sir heb ystyried y Gymraeg?
 
“Rydyn ni wedi dweud eisoes fod y Llywodraeth a'r Cyngor yn ddibynnol ar ffigyrau o gyfnod pan oedd twf aruthrol yn y boblogaeth, pan oedd pethau ar eu gorau yn economaidd, ond a ninnau wedi bod ac yn dod mas o ddirwasgiad does dim angen cymaint o dai - a dim sicrwydd y bydd eu hangen mewn gwirionedd. Byddan nhw'n cael eu llenwi wrth gwrs – ond gan bwy?
Ein neges ni yn Sir Gaerfyrddin fel ar draws Cymru yw fod angen ystyried y galw lleol am dai yn y lle cyntaf, ac adeiladu ar sail hynny – mae angen tai mewn rhai ardaloedd, ond nid y niferoedd sy'n cael eu hawgrymu.
 
“Rydyn ni'n siomedig hefyd fod y dogfennau yma'n uniaith Saesneg. Yn arbennig gan fod y Cyngor wedi rhoi addewid fod strategaeth yn cael ei rhoi yn ei lle er mwyn newid iaith y Cyngor i fod yn Gymraeg – a bod holl ethos y Cyngor tuag at y Gymraeg yn gwella.
Dydyn ni ddim yn disgwyl i bethau newid dros nos, ac yn deall fod proses y CDLl wedi dechrau cyn i'r Cyngor greu y strategaeth iaith newydd – ond sut gallwn ni eu cymeryd ar eu gair o weld hyn?
Ar faes yr Eisteddfod byddwn ni'n cael parti i ddathlu fod strategaeth yn ei lle gan y Cyngor ond yn amlwg mae angen cadw llygad barcud arnyn nhw er mwyn gwneud yn siŵr fod y strategaeth yn cael ei chymeryd o ddifrif.”
 
Bydd parti mawr ar faes yr Eisteddfod genedlaethol am 2pm ar ddydd Gwener yr 8fed o Awst, ond neges y Gymdeithas yw fod angen dal i gadw llygad barcud ar y Cyngor Sir. Manylion llawn y parti - http://cymdeithas.org/digwyddiadau/parti-i-ddathlu-gyda-chyngor-sir-gaeryfrddin