Newidiadau i'r Mesur Iaith 'atal pleidlais' galwad Cymdeithas

alunffjones.jpgMae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r Llywodraeth o ddweud 'celwyddau' ar ôl iddynt gyflwyno gwelliannau na fydd yn sefydlu'r Gymraeg fel iaith swyddogol na hawliau i'r Gymraeg ychwaith.Heddiw, rhyddhaodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnig a fydd yn mynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar 30ain Hydref yn Aberystwyth sydd yn galw ar Aelodau Cynulliad i beidio â phleidleisio dros y Mesur os na wneir newidiadau pellach iddo.Ar statws swyddogol, cytunodd llefarydd y Gymdeithas gyda sylwadau'r cyfreithiwr Emyr Lewis a ddywedodd fod gan y gwelliant ar statws "...nid oes grym cyfreithiol annibynnol o gwbl gan y datganiad...".Mewn llythyr agored eleni, beirniadodd 13 cyfreithiwr gynlluniau presennol y Llywodraeth wrth ddweud: "Nid yw gosod [dyletswyddau ar gyrff], er gwaetha'r ffaith y bydd eu torri yn medru arwain at gosbau, gyfystyr â sefydlu hawliau i unigolion."Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r Llywodraeth yn dweud celwyddau eto wrth honni eu bod yn rhoi hawliau a statws swyddogol yn y Mesur Iaith. Dyw'r newidiadau ddim yn golygu hynny; maen nhw wedi methu cyflawni eu haddewdion i'r cyhoedd. Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn rhoi hawliau i gwmnïau osgoi darparu gwasanaethau yn y Gymraeg, ond ddim byd tebyg i bobl. Mae'n hollol anghyfiawn i rymuso cyrff a chwmnïau mawrion, ond gadael pobl heb yr un math o hawliau. Dyna pam rydym yn awgrymu nifer o welliannau er mwyn gwneud iawn am y sarhad sydd yn y mesur. Mess Hir yw'r mesur heb hawliau clir."

"Rydym ni a mudiadau eraill wedi cyflwyno gwelliannau a thystiolaeth gryf o'r angen i gynnwys hawliau a statws yn y mesur. Er i'r Gweinidog ddweud ei fod yn fodlon gwrando ar farn y bobl mae'n hollol amlwg nad yw wedi cymryd ein sylwadau i ystyriaeth.""Mae siawns gan Aelodau Cynulliad dros yr wythnosau nesaf i achub y Mesur er mwyn sicrhau tegwch rhwng cwmniau ac unigolion. Dyma'r cyfle olaf am genhedlaeth i sicrhau hawliau i'r Gymraeg a statws swyddogol iddi, yr hwb sydd angen er mwyn normaleiddio'r iaith a rhoi cyfiawnder i'w sawl sydd am gofleidio'r iaith, boed nhw'n siarad y Gymraeg ai peidio."Bu'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn frad wrth beidio â rhoi'r pwerau dros y Gymraeg yn nwylo Cymru, ond mae brad pellach yma gan nad yw'r Llywodraeth yn gwneud llawn ddefnydd o'r pwerau hynny sydd ganddynt."Bwrdd yr Iaith yn beirniadu'r Mesur Iaith - Golwg360 - 08/10/10Language campaigners accuse the Government of lying about the real impact of the new law - Western Mail - 08/10/10Welsh language board unhappy despite changes to proposed new law - Daily Post - 08/10/10Mesur iaith o dan y lach - BBC Cymru - 07/10/10What makes a language like Welsh or English 'official'? - BBC Wales - 07/10/10Assembly measure gives Welsh status 'equal to English' - BBC Wales - 07/10/10Critics say new language plans have no power - Western Mail - 07/10/10Statws cydradd â'r Saesneg i'r Gymraeg - BBC Cymru - 06/10/10'Statws swyddogol' i'r iaith Gymraeg - Golwg360 - 06/10/10