Newidiadau Radio Cymru: profi bod angen darlledwr ychwanegol

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y newidiadau i Radio Cymru yn profi bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd yn ychwanegol at ddarpariaeth y BBC.

Roedd penaethiaid y gorfforaeth wedi gwrthod sefydlu ail orsaf cyn i ymgynghoriad - “y Sgwrs Genedlaethol” - ddod i ben. Rhwng 1990 a 2002 fe wnaeth y BBC fwy na dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg sy’n darlledu yng Nghymru.

Dywedodd Greg Bevan llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni’n croesawu sylwadau personol Betsan Powys am ei chefnogaeth i’r ymgyrch dros ddarparwr arall. Ond mae ei sylwadau hefyd yn tanlinellu diffyg uchelgais a gweledigaeth ehangach y BBC fel corfforaeth. Dyw'r newidiadau hyn ddim yn newid problem sylfaenol yr orsaf, sef y ffaith na all un orsaf ddim diwallu holl anghenion y gynulleidfa.

“Allwn ni ddim ymddiried yn y BBC i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg -- mae hi wedi trin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg ers degawdau. Byddwn ni felly yn ymgyrchu dros sefydlu darlledwr amlgyfryngol ychwanegol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y BBC.”

Ychwanegodd Greg Bevan: “Cawson ni ein synnu gan benderfyniad y BBC i gynnal adolygiad o un o’i gorsafoedd radio yn unig. Nid cyfrifoldeb un orsaf radio yw’r allbwn Cymraeg ond cyfrifoldeb y gorfforaeth yn ei chyfanrwydd.”

“Mae menter ‘Cymru Fyw’ yn ddyblygiad o rywbeth sy’n digwydd ar draws holl wledydd Prydain. Dydyn ni ddim yn gweld llawer i’w groesawu yn y penderfyniad i beidio ag eithrio’r Gymraeg o gael blog ychwanegol fel sy’n digwydd yn ‘rhanbarthau’ eraill Prydain.”

Ymateb y Gymdeithas i ymgynghoriad Radio Cymru