Nid lle gweithgor o'r Cyngor yw argymell cau ysgolion unigol

baner-protestcaernarfon-190.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".

Mae'n bosibl y bydd gwelliannau i newid yr union eiriad, ond egwyddor sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw nad lle unrhyw weithgor canolog o'r cyngor yw gwneud argymhellion am ba ysgolion y dylid eu cau. Gall gweithgor canolog astudio adroddiadau, gymryd tystiolaeth a hyd yn oed lunio criteria am hyfywedd ysgolion. Ond mater i'w drafod yn lleol gydag ysgolion a chymunedau yw argymhellion am dynged ysgolion unigol a'u perthynas a'i gilydd.Dywedodd Osian Jones (trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd):"Mae pwysau rhieni, llywodraethwyr ac eraill wedi cael effaith mawr hyd yma ac wedi gorfodi'r Cyngor yn ymarferol i dynnu'n ol y Cynllun gwreiddiol. Rhaid sicrhau'n awr nad oes ymdrech arall i benderfynu o'r canol dynged ein hysgolion. Mae angen nid yn unig Gynllun newydd ond hefyd agwedd newydd o drafod yn agored gyda phobl leol yn lle ffurfio cynlluniau'n ganolog.""Mae un cyfle olaf gan y Cyngor i gael y penderfyniad yn iawn a chychwyn cyfnod newydd o gydweithio efo ysgolion a chymunedau lleol."