Tad yn aros dros dair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant

Rydyn ni wedi beirniadu Cyngor Sir Wrecsam yn hallt ar ôl i dad aros tair blynedd am wersi nofio drwy’r Gymraeg i’w blant, a hynny er gwaethaf sawl ymchwiliad i’r mater gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, gofynnodd Aled Powell i Gyngor Wrecsam am wersi nofio yn Gymraeg i’w blant yn 2019, ac mae’n dal i aros, heb sicrwydd pryd bydd gwersi nofio ar gael i blant yr ardal yn Gymraeg.

Meddai Aled Powell, sy’n aelod o Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:
“Dw i wedi bod yn trafod efo Cyngor Wrecsam ers dros dair blynedd, dw i wedi cwyno wrth y Cyngor ac wrth Gomisiynydd y Gymraeg, a does dim byd sylfaenol wedi newid. Beth ydw i fod i’w wneud? Mae dyletswydd ar y Cyngor i ddarparu drwy’r Gymraeg, ond yn amlwg dydyn nhw’n poeni dim am siaradwyr Cymraeg y sir. Y dewis dw i wedi’i gael yn y bôn ydy gwersi nofio drwy’r Saesneg neu ddim gwersi nofio o gwbl”

Tra’i fod yn brwydro i geisio cael gwersi nofio yn Gymraeg i'w blant, mae’n ymwybodol eu bod nhw’n colli allan. Ychwanegodd Mr Powell:
“Mae Comisiynydd y Gymraeg ar eu trydydd ymchwiliad i mewn i’r mater ar hyn o bryd, ond yn y cyfamser mae fy mhlant i’n tyfu i fyny. Dw i ddim eisiau gwersi i ’mhlant ymhen blynyddoedd pan maen nhw yn yr ysgol uwchradd. Roedd Awen yn bedair pan ddechreuais i ofyn am wersi ac mae hi bellach yn saith, ac mae hi a’i chwaer fach yn gofyn bob wythnos pa bryd cawn nhw ddysgu nofio.”

Meddai Nia Marshall Lloyd ar ran Cell Wrecsam Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n rhyfeddol bod awdurdod lleol yn ymddwyn mewn ffordd mor ddi-hid pan mae rhieni’r ardal yn ceisio rhywbeth mor sylfaenol â gwersi nofio drwy’r Gymraeg i’w plant. Mater syml ydy hyn yn y bôn, ac mae’n amlwg mai’r prif rwystr ydy agwedd Cyngor Wrecsam tuag at y Gymraeg. Galwn ar arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, i dderbyn cyfrifoldeb am hyn ac ymyrryd ar unwaith er mwyn sicrhau bod gwersi nofio Cymraeg ar gael i blant y sir yn y flwyddyn newydd.”