
Mae adroddiad ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i gŵyn am ddarpariaeth nofio Cyngor Wrecsam wedi dod i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu ar sawl cyfri. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae methiannau parhaus yn codi cwestiynau am ymrwymiad y Cyngor i’r Gymraeg ac am weithdrefnau Comisiynydd y Gymraeg.
Yn dilyn cwyn daeth Comisiynydd y Gymraeg i’r casgliad nad oedd Cyngor Wrecsam na Freedom Leisure, sydd yn darparu gwasanaethau hamdden ar ran y Cyngor, wedi asesu’r anghenion iaith ar gyfer swyddi, nad oedd tudalennau ar wefan Freedom Lesiure yn hysbysebu’r swyddi yn Gymraeg ac nad oedd ffurflen ymgeisio ar gael yn Gymraeg.
Yn ôl Cyngor Wrecsam mae gweithdrefnau adnoddau dynol Freedom Leisure yn gyfrifoldeb i’r corff hwnnw, nid y Cyngor. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn dangos difaterwch y Cyngor a’u bod yn gweithredu yn groes i Fesur Y Gymraeg 2011.
Dywedodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Gan fod Freedom Leisure yn cynnal gweithgareddau hamdden ar ran Cyngor Wrecsam mae’n amlwg bod rhaid iddyn nhw gydymffurfio â’r Safonau sydd wedi eu gosod ar Gyngor Wrecsam. Roedden ni’n un o’r mudiadau wnaeth ymgyrchu i sicrhau cynnwys gwersi nofio dan Safonau’r Gymraeg nôl yn 2016 ond dyma ni, bron i ddegawd yn ddiweddarach a phlant yn dal i orfod derbyn gwersi nofio trwy’r Saesneg yn unig.
“Wrth ddarparu gwersi nofio, ac yn wir holl weithgareddau hamdden yng Nghymru, mae sgiliau Cymraeg yn amlwg yn fantais i’r gweithlu, p'unai a oes dyletswydd statudol i ystyried hynny neu beidio, does dim synnwyr anwybyddu’r Gymraeg yn gyfan gwbl fel sydd wedi digwydd fan hyn.
“Mae sawl cwyn am wersi nofio wedi ei chyflwyno dros y blynyddoedd a’r esgus o hyd yw ei bod yn anodd cael athrawon nofio sy’n siarad Cymraeg. Gan fod cymaint o sylw wedi bod i’r mater dylai aelodau etholedig, pob un ohonynt yn cynrychioli siaradwyr Cymraeg, fod wedi cadw golwg fanwl ar y broses hysbysebu a phenodi. Mae’n warthus hefyd bod y Cyngor yn gweithredu yn groes i amcanion Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-2027 ei hun o ran cynyddu defnydd o’r Gymraeg a’r cyfleoedd i fyw bywyd pob dydd yn Gymraeg.”
Oherwydd methiant i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg mae’r Comisiynydd wedi gosod camau gorfodi pellach, ond yn ôl y Gymdeithas dyma fethiant ar ran Comisiynydd y Gymraeg hefyd gan fod Safonau yn cael eu hanwybyddu yn barhaus dros gyfnod hir, ac ond yn dod i’r amlwg wedi i aelodau’r cyhoedd gwyno.
Ychwanegodd Sian Howys:
“Mae adroddiad y Comisiynydd ei hun yn nodi bod camau gorfodi blaenorol wedi eu gosod ar Gyngor Wrecsam i fynd i’r afael â diffygion Freedom Leisure a dydy’r sefyllfa heb wella. Pam nad oedd Comisiynydd y Gymraeg wedi sylwi ar y diffyg yma? Ar ôl gosod camau gorfodi, oni ddylai fod rhywun yn cadw golwg ar yr angen am gydymffurfiaeth?
“Yn fwy na hynny mae’r camau gorfodi newydd a osodwyd yn rhoi deuddeg mis i’r Cyngor gydymffurfio â Safonau y dylai’r Cyngor fod wedi cydymffurfio â nhw ers 2016. Er gwaetha methiant dros y naw mlynedd diwetha mae’r Comisiynydd yn caniatáu i’r Cyngor barhau i fethu a thrwy hynny mae hi ei hun, fel swyddogion ac aelodau etholedig y Cyngor, ac yn parhau i fethu plant a phobl ifanc Wrecsam."