Noson Heddwch yn ystod adloniant yr Eisteddfod

meic.jpgMae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno a nhw mewn gig i gofio Hiroshima a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio' rheiny a fu farw 66 mlynedd yn ôl. Bu'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno (1945) hefyd yn ardal Wrecsam - yn Rhosllanerchrugog - a chyhoeddwyd y Cadoediad o lwyfan y Brifwyl. Mae'n arbennig o addas felly fod Noson dros Heddwch Rhyngwladol eleni.Yn perfformio yn ystod y digwyddiad fydd nifer o artistiaid yn cynnwys Meic Stevens, Tecwyn Ifan, a Lleuwen Steffan. Fe fydd artist o Chile, Carlos Jesus Morales yn canu hefyd.Mae tocynnau'r noson ar werth am £9 yr un ar-lein o cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.Dywedodd llefarydd ar ran Fforwm Heddwch a Chyfiawnder Wrecsam:"Rydym yn falch iawn i gefnogi gig Heddwch Cymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, yn enwedig gan y bydd yn digwydd ar drothwy pen-blwydd Hiroshima, sy'n ein hatgoffa i ni i gyd o'r angen hanfodol i ddod o hyd i atebion heddychlon i wrthdaro."

Ychwanegodd Ieuan Roberts, un o drefnwyr gigs Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam:"Mae Cymdeithas yr Iaith yn gosod y frwydr dros ddyfodol yr iaith a chymunedau Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol; mewn byd lle mae grymoedd mawr milwrol ac economaidd yn rheibio diwylliannau brodorol, adnoddau economaidd a'r amgylchedd ac yn y pendraw yn gorfodi eu hewyllys trwy rym. Dyna pam y mae'r Gymdeithas yn gyson wedi cefnogi achos Heddwch Rhyngwladol ac wedi gwrthwynebu'r defnydd o rym milwrol i orfodi atebion.""Mae lein-yp cyffrous o artistiaid sydd wedi ymrwymo i achos heddwch. Mae Meic Stevens yn dychwelyd o gyfnod yn Canada i ganu ei gân gyntaf o 1967 ;Yr Eryr a'r Golomen; a oedd yn gân brotest yn erbyn rhyfel Fietnam. Mae Tecwyn Ifan wedi bod yn amlwg yn y Mudiad Heddwch yng Nghymru ers chwarter canrif, ac mae Gwilym Morus wedi cydweithio'n gyson gyda'r Palestiniaid. Er mwyn rhoi naws cydwladol i'r noson, daw Lleuwen â band cymysg o Lydaw a Chymru a Carlos Jesus Morales o Chile. Bydd y bandiau ifainc Sen Segur a Tom ap Dan yn dangos fod y Mudiad Heddwch yn fyw ac yn iach yng Nghymru heddiw.""Bydd saith awr o dystiolaeth dros heddwch, gyda'r gig yn parhau tan 3 y bore. Am hanner nos, bydd Meic Stevens yn arwain pawb yno i barchu munud o dawelwch ar ddechrau Diwrnod Rhyngwladol Cofio Hiroshima. Mae'r gig yn cael ei gefnogi gan nifer o Fudiadau Heddwch yng Nghymru, ac mae'r Gymdeithas yn falch iawn o fod wedi derbyn neges gefnogol gan Fforwm Heddwch a Chyfiawnder Wrecsam"Manylion llawn y gigs yma - cymdeithas.org/steddfod