Noson John Peel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Noson John PeelMae Radio 1 wedi datgan mai 12 Hydref yw dyddiad Diwrnod John Peel eleni. Ledled y byd, bydd gigs a digwyddiadau cerddorol yn cymryd lle, i gofio am y dyn a wnaeth gymaint dros gerddoriaeth amgen. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â nhw gan gynnal noson arbennig yn y Greeks ym Mangor Uchaf.

Bydd set arbennig gan Mr Huw gyda Swci Boscawen – Am y tro cyntaf erioed bydd y ddau gerddor yn perfformio fersiynnau o ganeuon ei gilydd.Yn ogystal disgwyliwch setiau gan Lladron a Gafyn Buckland. Yn troelli bydd DJs Dyl Bili, Y Crafwyr, Fuzzy Felt a Crav. Yn ogystal â’r bandiau a’r DJs, dangosir dwy ffilm - Cynrychioli gan Siôn Mali, sy'n dilyn Sleifar a'r Teulu ar drip i BBC Maida Vale yn Llundain ar gyfer recordio sesiwn a gomisiynwyd gan Peel cyn iddo ein gadael, a hefyd Menai gan Geraint Ffrancon, sef fideo cerddorol gan y grŵp Seindorff.Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd y Gymdeithas a cerddor fu’n aelod o’r Tystion a recordiodd nifer o sesiynau ar gyfer rhaglenni radio Peel; “Gwnaeth John Peel fwy na neb dros hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes Gymraeg gan ddarlledu recordiau a chynnig sesiynau i nifer fawr iawn o fandiau fel Yr Anhrefn, Plant Bach Ofnus, Llwybr Llaethog, Datblygu, Melys a Tystion. Mae ei gyfraniad yn amhrisiadwy a dyma gyfle gwych i ddathlu ei fywyd a chadw ei ysbryd yn fyw.”poster_john_peel.jpg